Pêl-droed merched angen 'mwy o arian' a strwythur gwell

  • Cyhoeddwyd
Laura McAllister
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Athro Laura McAllister mae angen rhoi mwy o bwyslais ar y gêm bêl-droed i ferched

Mae cyn Gadeirydd Chwaraeon Cymru yn dweud bod angen gwario arian a gwella'r strwythur hyfforddi er mwyn parhau i ddatblygu pêl-droed merched yng Nghymru.

Daw sylwadau'r Athro Laura McAllister - sy'n gyn gapten y tîm cenedlaethol - ar raglen Manylu Radio Cymru wrth i Gymru baratoi i wynebu Lloegr yn rowndiau rhagbrofol cwpan y byd.

"Pan mae merch yn cyrraedd ysgol, yn barod mae'n meddwl am bêl-droed fel gêm i fechgyn yn unig.

"A dyna'r broblem- rhaid inni roi mwy o gefnogaeth, mwy o arian a mwy o bwyslais yn gyffredinol ar y gêm menywod a'r oedran ifanca' yn fy marn i,"meddai Laura McAllister.

Angen 'strwythur cywir'

Rhan o'r gefnogaeth ydi cynyddu nifer y merched sy'n gallu hyfforddi ychwanegodd.

"Y broblem fwyaf ar y foment yw sicrhau bod y strwythur cywir yn ei lle i gael hyfforddwyr sy'n fenywod a chael gwirfoddolwyr sy'n cefnogi gêm y menywod.

"Os chi'n chwarae pêl-droed bechgyn neu ddynion mae pob tad yn gwneud rhywbeth, ond wrth gwrs does 'na ddim diwylliant o fenywod yn gweithio yn y gêm," meddai wrth nodi ei bod yn canmol ymdrechion Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu gêm y merched.

Chwe mil a hanner o ferched sydd wedi eu cofrestru hefo clybiau yng Nghymru ar hyn o bryd. Y nod ydi cyrraedd 20,000 erbyn 2024.

Llyr Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru'n bwriadu penodi pennaeth ar gyfer y gêm i ferched a buddsoddi mewn mwy o adnoddau meddai Llyr Roberts

Mae'r Gymdeithas wedi bod yn ymgynghori a chlybiau a swyddogion clybiau yn ystod y misoedd diwethaf er mwyn pwyso a mesur yr anghenion.

"Byddwn ni'n deud bod y Gymdeithas eisoes yn buddsoddi dipyn o gymharu â gwledydd eraill pan chi'n edrych ar drosiant y sefydliad.

"Mae'r Gymdeithas yn bwriadu buddsoddi mwy yn y dyfodol gan gynnwys sefydlu rôl newydd - sef pennaeth ar gyfer gêm y merched - rôl bwysig fydd yn sicrhau bod y strategaeth yn cael ei gwireddu," meddai Llyr Roberts, sy'n ymgynghorydd i'r Gymdeithas Bêl-droed.

Buddsoddi yn y gêm

Mae'r Gymdeithas hefyd yn awyddus i godi safon Uwch Gynghrair y merched a buddsoddi mewn adnoddau ychwanegodd.

"Ni yn buddsoddi mewn tan adeiledd caeau ar draws Cymru - caeau ar lawr gwlad a chaeau ar lefel genedlaethol.

"Felly mi fydd 'na ddatblygiadau yn ardal Wrecsam a Chasnewydd fydd gobeithio yn sicrhau fod cyfle i'r gêm ddomestig a'r gêm ryngwladol.

"Y gobaith wedyn ydi pontio rhwng y gêm ddomestig a'r gêm ryngwladol, " meddai Llyr Roberts.

Tania Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn wahanol i'r cyfnod pan oedd hi'n chwarae pêl droed mae mwy o gyfleoedd i ferched heddiw meddai Tania Jones

Mae dau o gyn chwaraewyr Cymru o'r farn bod safon y gêm a'r diddordeb mewn pêl-droed merched wedi cynyddu'n arw yn ystod y ganrif hon.

Yn ôl Tania Jones, sydd bellach yn ysgrifennydd clwb pêl-droed merched Caernarfon sydd yn rhan o Uwch Gynghrair merched Cymru, mae gêm y merched ar i fyny.

Mae mwy na chant o blant a merched yn chwarae i'r gwahanol dimau yn y dref.

"I fod yn onest does 'na ddim digon o oriau i hyfforddi mae 'na gymaint o ferched hefo diddordeb y dyddia yma achos bod y cyfle yna.

"Pan oeddwn i'n fach hefo'r hogia oeddwn i a doedd na ddim llawr o gyfleoedd. Mae'r cyfleoedd yna rŵan i enethod sydd yn grêt," meddai Tania Jones

Tîm merched Caernarfon yn ymarfer
Disgrifiad o’r llun,

Yng Nghaernarfon mae'r gêm wedi dod yn boblogaidd iawn ymhlith merched

Dyna farn Manon Lloyd Williams hefyd - oedd yn chwarae i Gymru ar yr un pryd a Tania Jones.

"Mae pêl-droed a chwaraeon eraill i ferched wedi tyfu a thyfu. Mae 'na dal dipyn o ffordd i fynd dwi'n meddwl i gyrraedd lle mae'r dynion ond mae 'na lot fwy o sylw a lot mwy o dimau i ferched rŵan," meddai.

Ddechrau Ebrill mi fydd tîm merched Cymru yn wynebu Lloegr yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Mae Cymru yn ddiguro hyd yma a'u llwyddiant yn ôl aelod o dîm Caernarfon wedi codi proffil gêm y merched.

"Dwi'n meddwl bod merched yn cael lot mwy o sylw rŵan na be oeddan nhw. Os gawn ni result da yn erbyn Lloegr neith proffil y gêm godi lot...mae'n edrych yn dda a ma' gynno ni sgwad reit gryf yn mynd mewn i'r gêm," meddai Elain Evans.

Manylu am 12:30 ar Radio Cymru ddydd Iau, 22 Mawrth