Achos posib o Alabama Rot yn y gorllewin

  • Cyhoeddwyd
MIlly y ciFfynhonnell y llun, Meddygfa Market Hall
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Milly, sbaniel o Sir Benfro yn sâl 10 diwrnod ar ôl bod yn cerdded mewn coedwig yn Sir Fynwy

Mae milfeddyg o Sanclêr wedi annog perchnogion cŵn yn y Gorllewin i fod yn wyliadwrus ar ôl achos posib o'r clefyd prin Alabama Rot.

Mae sbaniel o Sir Benfro yn cael ei drin fel achos posib ar ôl cael triniaeth frys yn Sanclêr.

Mae Alabama Rot yn achosi briwiau difrifol ar y coesau a'r traed ac mae'n ymosod ar arennau.

Hyd yn hyn, mae'r achosion yng Nghymru wedi cael eu cyfyngu i dde ddwyrain Cymru, ac mae'r clefyd yn parhau yn brin iawn.

Fel arfer, mae'r clefyd yn lladd dros 80% o gŵn sydd yn dioddef ohono. Dim ond trwy gyfrwng archwiliad post mortem mae modd cadarnhau'r achos.

Roedd Milly, y sbaniel, wedi mynd am dro ger pentref yn Sir Fynwy ddeg diwrnod cyn cael ei gweld gan filfeddyg.

Yn ôl Kate Evans, y milfeddyg o Filfeddygfa Market Hall wnaeth drin Milly, mae angen i berchnogion i fod yn ofalus, ond i beidio â mynd i banig.

"Roedd yr arwyddion i gyd yno... y briwiau ar y croen yn datblygu ar ôl bod am dro mewn coedwig, ac yna mynd yn sâl rai diwrnodau wedyn.

"Fe ddangosodd profion gwaed bod ei arennau yn ddiffygiol, a'i bod hi yn bur wael."

Ffynhonnell y llun, Meddygfa Market Hall
Ffynhonnell y llun, Milfeddygfa Market Hall

Dywedodd Kate Evans bod Alabama Rot yn afiechyd peryglus, ac er bod angen i berchnogion fod ar eu gwyliadwriaeth, does dim angen mynd i banig.

"Cofiwch gadw golwg ar eich anifail anwes. Peidiwch â newid eich arferion cerdded, ond edrychwch am unrhyw gytiau neu friwiau nad ydych chi'n siwr ohonyn nhw.

"Dewch a nhw at y milfeddyg, yn enwedig os ydy'r briwiau ar y coesau, traed neu eu cegau yn rhai crwn."

  • Mae na dros 140 o achosion wedi bod ym Mhrydain ers 2012.

  • Mae dros 20 o achosion wedi bod eleni yn unig.

  • Yng Nghymru mae'r achosion wedi tueddu i fod yn y dwyrain.

  • Dyma'r achos tebygol cyntaf mewn ci yn y gorllewin.

Mae arbenigwr yn annog perchnogion cŵn i olchi traed eu hanifeiliaid ar ôl bod yn cerdded mewn llefydd mwdlyd.

Mae gan Neris Davies o Faenygroes ger Cei Newydd bump o gŵn. Mae hi'n dweud ei bod hi'n osgoi eu cerdded mewn llefydd mwdlyd, ac yn "aros ar draethau a llefydd sych".

Mae hi, a'r milfeddyg Kate Evans, yn galw am ymchwil pellach i'r clefyd sydd fel arfer yn un angheuol.

"Mae eisiau ymchwil, achos ar ddiwedd y dydd does dim syniad sut mae'n cyrraedd.

"Does dim patrwm... ydy e'n dod gyda'r gwynt? Ydy e'n dod gan anifail arall?

"Yn sicr mae eisiau i rywun edrych mewn iddo, er mwyn i ni wybod mwy amdano fe, achos ar ddiwedd y dydd mae'r diwydiant cŵn werth gymaint o arian."