Trasiedi marwolaeth dau o dripledi
- Cyhoeddwyd
Clywodd crwner fod dau fabi tripled o Ben-y-bont ar Ogwr wedi marw fis Medi'r llynedd ar yr un noson o ganlyniad i haint ar y frest.
Roedd Charlie a Noah Owen yn bum mis oed.
Fe wnaeth y fam, Sarah Owen, alw 999 ar ôl methu a'u deffro yn ystod y nos.
Roedd eu brawd Ethan dal yn fyw.
Dywedodd patholegydd fod y ddau wedi eu gwanhau oherwydd iddynt gael eu geni yn gynnar, a bod hynny wedi chwarae rhan fawr yn eu marwolaeth yn dilyn haint.
Fe wnaeth Crwner Canol De Cymru, Andrew Barkley, gofrestru'r marwolaethau ond dywedodd na fyddai gwrandawiad cyhoeddus i'r trasiedi.
Ar ôl datganiad y crwner dywedodd mam-gu'r tripledi Sally Boyd: "Mae bob diwrnod wedi bod yn anodd, anodd iawn i Sarah a'r teulu.
"Ond rydym yn caru Ethan, sy'n fachgen mor hyfryd."
Fe wnaeth y tripledi adael yr ysbyty i fyw gyda'i mam fis ar ôl eu geni.
Roeddynt wedi eu geni fis yn gynnar ym mis Ebrill y llynedd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ yn ardal Maes-y-Felin, Pen-y-bont ar Ogwr ar 23 Medi, 2017
Fe wnaeth y fam wrthod gwneud unrhyw sylw ar ôl penderfyniad y crwner.