Achos llofruddiaeth: Dyn yn 'cuddio y tu ôl i ffantasi'

  • Cyhoeddwyd
Tyler DentonFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tyler Denton wedi treulio'r noson yn dathlu pen-blwydd ei chymar

Mae dyn sy'n cael ei gyhuddo o lofruddio dynes 25 oed yn Y Rhyl ac o geisio llofruddio tri pherson arall oedd yn perthyn iddi, wedi cael ei gyhuddo o "guddio y tu ôl i ffantasi".

Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, John Philpotts, fod Redvers James Bickley, 21, wedi ei "feistroli gan ffyrnigrwydd a cholli ei dymer" cyn llofruddio Tyler Denton.

Yn gynharach yn yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, roedd Mr Bickley wedi dweud wrth y rheithgor nad oedd yn teimlo "fel ei hun" a bod ei "ochr dywyll wedi cymryd drosodd".

Mae Mr Bickley yn gwadu llofruddio Ms Denton, a cheisio llofruddio ei dwy chwaer Cody a Shannen, a'i thad Paul Denton yn Llys Aderyn Du fis Medi'r llynedd.

Meddyliau tywyll

Mae Mr Bickley eisoes wedi dweud wrth y llys ei fod yn brwydro yn erbyn cymeriad sy'n "cymryd drosodd ei feddwl o'r enw James", a bod hwnnw'n rheoli ei feddyliau ar brydiau.

Wrth groesholi Mr Bickley fe wnaeth Mr Philpotts ei gyhuddo o "guddio tu ôl i'w ochr arall, ei feddyliau tywyll, a oedd wedi ei alw'n James".

"Rydych yn defnyddio hyn i gyd fel esgus i osgoi'r pethau erchyll wnaetho chi'r noson honno," meddai.

Dywedodd Mr Bickley fod rhai o'r straeon ffantasi yr oedd wedi eu hysgrifennu wedi bod "dan ddylanwad James".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Redvers Bickley (dd) yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn

Gofynnodd Mr Philpotts pam nad oedd erioed wedi ceisio cael triniaeth, cyn awgrymu fod well ganddo "wneud pethau erchyll".

Dywedodd Mr Bickley wrth y rheithgor ei fod wedi ceisio lladd ei hun yn ddiweddar ac nad oedd wedi chwilio am gymorth "rhag i bobl feddwl ei fod yn greadur od".

Casgliad o gleddyfau

Fe gyfaddefodd Mr Bickley fod ganddo ddiddordeb mewn cleddyfau a bod ganddo gasgliad ohonynt.

Roedd wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi cael "syniadau yn chwarae ar ei feddwl o ladd Tyler Denton, ei lladd tra oedd hi'n cysgu drwy ei thrywanu yn ei gwddf".

Dywedodd wrth y llys: "Dwi'n cael syniadau, rwyf hyd yn oed yn cael syniadau o drywanu fy mam ac anifeiliaid anwes."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Llys Aderyn Du, Y Rhyl ar 9 Medi

Aeth Mr Philpotts yn ei flaen i drafod yr hyn oedd Mr Bickley wedi ei ysgrifennu yn oriau man 29 Awst; "lladdwch nhw i gyd, paid gadael goroeswyr", gan ddweud mai dyma'n union wnaeth Mr Bickley.

Atebodd Mr Bickley gan ddweud nad oedd yn cofio gan wadu bwriadu llofruddio.

'Rhan o ffantasi'

Pan ofynnwyd i Mr Bickley pam ei fod wedi lladd Ms Denton, atebodd: "Dwi ddim yn gwybod."

Dywedodd Mr Philpotts: "Mae James yn rhan o dy ffantasi, Dwyt ti ddim gwahanol i neb arall, rwyt yn gallu colli dy dymer fel pawb arall.

"Yn syml fe gesdi dy feistroli gan ffyrnigrwydd a cholli dy dymer."

Fe wadodd Mr Bickley y cyhuddiadau a gwadu ei fod yn dweud celwydd wrth y rheithgor.

Mae'r achos yn parhau.