Ysgol Gymraeg newydd i gynnwys adeilad rhestredig

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Maesydre
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cartref parhaol Ysgol Gymraeg y Trallwng ar safle Ysgol Maesydre

Bydd yn rhaid i Gyngor Powys ailfeddwl eu cynlluniau gwreiddiol i ddymchwel hen ysgol yn y Trallwng er mwyn codi ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

Daw hyn yn sgil penderfyniad Cadw, y corff treftadaeth, i roi statws rhestredig Graddfa II ar ran o hen Ysgol Maesydre.

Dywed Cyngor Powys y bydd ysgol cyfrwng Cymraeg yn dal i gael ei chodi ar y safle ond bydd yn rhaid adolygu'r cynlluniau presennol.

"Bydd penseiri arbenigol yn gweithio gydag Ysgol Gymraeg y Trallwng, i ganolbwyntio'r cynlluniau diwygiedig ar godi adeilad ysgol y 21ain Ganrif sy'n ymgorffori'r adeilad gwreiddiol rhestredig ar ôl ei adfer," meddai llefarydd.

Yn wreiddiol roedd y sir wedi gobeithio y byddai'r ysgol Gymraeg newydd yn agor ei drysau ym Medi eleni, ond yr wythnos diwethaf daeth i'r amlwg y byddai oedi o o leiaf 12 mis.

Bydd yn rhaid i'r cynlluniau newydd fynd drwy'r broses cynllunio unwaith yn rhagor, a bydd hynny'n cynnwys cael sêl bendith Cadw, a gallai hynny olygu na fyddai'r ysgol newydd yn barod ar gyfer dechrau tymor Medi 2019.

Dywedodd y cynghorydd Myfanwy Alexander, aelod o gabinet y sir â chyfrifoldeb am ysgolion: "Ry'n ni wedi bod yn gweithio gyda chymuned Ysgol Gymraeg Y Trallwng a chyn bo hir, disgwyliwn allu rhannu'r dyluniadau diwygiedig gyda rhanddeiliaid ar lefel ehangach."

Ym mis Medi 2017 cafodd ysgol gynradd Cymraeg gyntaf Y Trallwng ei sefydlu dros dro ar safle hen Ysgol Ardwyn, gyda dros 70 yn mynychu'r ysgol.

Adeilad Baróc

Dywedodd Cadw, wrth gadarnhau statws rhestredig yr ysgol: "Mae'r ysgol o ddiddordeb hanesyddol arbennig fel enghraifft o fath pwysig o ysgol Gymreig sydd wedi'i chadw'n dda.

"Adeiladwyd ef mewn cyfnod pwysig o ddatblygu ysgolion o'r fath, pan ddechreuwyd darparu addysg uwchradd gwladol yn rheolaidd am y tro cyntaf"

"Mae'n enghraifft gydlynol a chyson o waith yn arddull yr adfywiad Baróc ac mae wedi goroesi gydag ond mân newidiadau."

Disgyblion Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, y Trallwng, sy'n defnyddio adeilad Maesydre ar hyn o bryd, cyn iddynt symud i ysgol newydd ar Ffordd Salop ym mis Medi 2019.