Corff Aberaeron: Ymchwiliad yr heddlu'n parhau

  • Cyhoeddwyd
Aberaeron

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth yn Aberaeron wedi cadarnhau nad ydynt eto wedi gallu adnabod y corff yn ffurfiol.

Fe wnaethon nhw hefyd gadarnhau eu bod yn parhau i chwilio am Gertrude Gaynor Jones, dynes yn ei 80au ac sy'n cael ei hadnabod yn lleol fel Gaynor, a'u bod yn trin ei hachos fel "person ar goll", tan bod cadarnhad i'r gwrthwyneb.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'r ymchwiliad yn un cymhleth ac oherwydd hynny mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad ar hyn o bryd.

"Mae'r crwner wedi cael gwybod ond dyw'r corff heb gael ei adnabod yn ffurfiol."

Dynes yn yr ysbyty

Fe ddaeth swyddogion o hyd i'r gweddillion dynol ddydd Llun 19 Mawrth, ar ôl i'r heddlu glywed pryderon am les dynes oedrannus a'i merch.

Aed â dynes yn ei 50au hwyr, sydd wedi ei henwi'n lleol fel Valerie, i'r ysbyty.

Yn ôl yr heddlu roedd chwilio yn yr adeilad yn heriol gan fod amodau yn anodd iawn oherwydd y llanast.

Y gred yw yw bod y corff wedi bod yn y tŷ am beth amser.

Dywedodd llefarydd y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth gysylltu â gorsaf yr heddlu yn Aberaeron.