Ymddiheuro am gau gwasanaethau oherwydd 'prinder dybryd'

  • Cyhoeddwyd
Prinder meddygonFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymddiheuro, wedi iddyn nhw fethu â darparu gwasanaeth meddyg teulu y tu hwnt i'r oriau arferol am gyfnodau dros y penwythnos.

Dywedodd y bwrdd fod hyn oherwydd prinder meddygon "dybryd".

Fe effeithiodd y prinder ar wasanaethau yn Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, Llandysul a Sir Benfro ar adegau gwahanol.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Steve Moore, fod y bwrdd iechyd yn gweithio i geisio diogelu lles cleifion.

Disgrifiad o’r llun,

Effeithiodd y prinder meddygon ar wasanaeth Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli am gyfnodau hir dros y penwythnos

Ar 23 Mawrth, cafodd neges ei chyhoeddi ar dudalen Facebook y bwrdd iechyd yn dweud eu bod yn "parhau i brofi anhawster wrth geisio llenwi rotas yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin dros y penwythnos oherwydd prinder meddygon dybryd".

"Fel ar bob achlysur, mae'r ymdrechion yn parhau ac fe allai'r sefyllfa wella", meddai'r neges, ond nododd nad oedd y safleoedd ar agor ar yr amseroedd canlynol:

Ysbyty Tywysog Philip:

  • Dydd Gwener 23 Mawrth (rhwng 22:30-08:00)

  • Dydd Sadwrn 24 Mawrth (rhwng 14:00-08:00)

  • Dydd Sul 25 Mawrth (rhwng 14:00-08:00)

Ysbyty Cyffredinol Glangwili:

  • Dydd Sadwrn 24 Mawrth (rhwng 23:00-08:00)

  • Dydd Sul 25 Mawrth (rhwng 23:00-08:00)

Llandysul: Dydd Sul 25 Mawrth (rhwng 23:00 - 08:00)

Sir Benfro: Dydd Sul 25 Mawrth (rhwng 00:00 a 08:00)

Ymddiheuro

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Ar ran y bwrdd iechyd, hoffwn unwaith eto ymddiheuro am unrhyw bryder neu anghyfleustra y mae'r sefyllfa staffio yn ei gael ar wasanaeth meddygon teulu y tu allan i'r oriau arferol.

"Mae hyn yn dueddiad cyfarwydd ymysg byrddau iechyd ar draws y wlad ac rydym yn gwybod bod ein holl staff a'n meddygon teulu'n gweithio'n galed iawn i geisio darparu gwasanaeth diogel i'n cleifion, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny.

"Rydym yn cydweithio ar draws holl ardal y bwrdd, a gyda gwahanol wasanaethau er mwyn darparu diogelwch i'n cleifion."