Cynnydd sylweddol yn achosion trais mewn carchardai
- Cyhoeddwyd
Mae nifer yr achosion o drais mewn carchardai Cymru wedi codi 53% - ffigwr sydd llawer yn uwch nag yn Lloegr.
Mae gwaith ymchwil rhaglen Newyddion 9 yn dangos bod 830 o achosion o drais wedi cael eu cofnodi gan gyfarwyddwyr carchardai Cymru yn 2015, a bod y ffigwr wedi codi i 1,066 yn 2016.
Mae hynny'n gynnydd o 53%, o'i gymharu â chynnydd o 12% ar draws Cymru a Lloegr.
Mae'r ffigyrau yn cynnwys achosion o drais rhwng carcharorion ac yn erbyn staff, ac roedd y cynnydd mwyaf yn yr ymosodiadau yn erbyn swyddogion carchar.
Cafodd 382 o achosion o drais yn erbyn staff eu cofnodi yn 2016, o'i gymharu â 184 yn 2015.
Roedd y rhan fwyaf o achosion yng ngharchar Parc ym Mhen-y-bont, gyda 686 o ymosodiadau mewn naw mis yn unig y llynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod gweinidogion yn cydnabod fod lefelau trais yn rhy uchel "a'u bod yn edrych ar frys i weld sut mae modd eu lleihau".
Galw am well diogelwch
Dywed Andy Baxter, llefarydd Cymru ar gyfer undeb POA, undeb swyddogion carchar, fod angen gwneud mwy i ddiogelu staff.
"Yn amlwg rydym wedi ein siomi'n fawr yn y lefel o drais yng ngharchardai Cymru ar hyn o bryd. Mae hyn oherwydd ffactorau sydd wedi datblygu dros gyfnod o dair blynedd.
"Rydym wedi gweld lleihad sylweddol yn nifer y staff profiadol, rydym yn gweld mwy o sylweddau seicoweithredol yn ein carchardai, ac rydym yn gweld mwy o bobl yn cael eu carcharu am droseddau treisgar.
"Beth sydd angen ei wneud ydi rhoi'r gallu i swyddogion carchar i allu amddiffyn eu hunain. Mae'r POA yn gofyn i San Steffan a Llywodraeth Cymru i roi chwistrellydd pupur i swyddogion.
"Rydym tua 30 o flynyddoedd y tu ôl i'r heddlu, maen nhw wedi bod yn defnyddio chwistrellydd pupur am 30 o flynyddoedd ac mae angen i swyddogion carchar gael yr un lefel o ddiogelwch."
Mae disgwyl i'r nifer o achosion o drais barhau i godi, gan fod 1,066 o achosion wedi cael eu cofnodi yn y naw mis hyd at Fis Medi 2017.
Dywedodd un cyn garcharor yn Abertawe wrth Newyddion 9 fod yr awyrgylch yn y carchar yn "ofnadwy".
"Mae trais yn anorfod oherwydd y diffyg blaenoriaeth i les carcharorion. Ond dyw hyn ddim yn unig yn broblem i garcharorion mae yn fater i swyddogion hefyd, mae yna ddiffyg niferoedd a diffyg hyfforddiant."
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod gweinidogion yn cydnabod fod lefelau trais yn rhy uchel "ac rydym yn edrych ar frys i weld sut mae modd eu lleihau.
"Mae hynny yn cynnwys rhoi'r adnoddau i staff sy'n caniatáu iddynt fod yn ddiogel, gan gynnwys camerâu personol ac offer chwistrellu.
"Rydym hefyd wedi buddsoddi £100 miliwn i benodi 2,500 o swyddogion carchar, fydd yn trawsnewid ein carchardai i lefydd sy'n ddiogel ac yn lle ar gyfer adferiad."
Ychwanegodd y llefarydd fod carchar newydd y Berwyn yn Wrecsam yn perfformio'n and oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu fod carchardai mwy yn perfformio yn waeth na rhai llai.