Annog cerddwyr Eryri i ddefnyddio rhagolygon penodol

  • Cyhoeddwyd
Yr Wyddfa
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mynydda Diogel y gall eira barhau ar y mynyddoedd nes diwedd mis Ebrill

Mae partneriaeth diogelwch mynydda yn annog pobl i gymryd golwg ar y rhagolygon a pharatoi am y gwaethaf cyn mentro allan i gerdded ar fynyddoedd Eryri dros y Pasg.

Mae Mynydda Diogel yn bartneriaeth rhwng nifer o gyrff, gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a Chymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru.

Mae'r bartneriaeth yn annog cerddwyr i edrych ar ragolygon sydd wedi'u hanelu'n benodol at gerddwyr.

Rhybuddiodd y Mynydda Diogel y gall tywydd yn y mynyddoedd fod yn hollol wahanol i'r tywydd ar lawr gwlad.

Ar gyfartaledd, mae tymheredd yn gostwng rhyw 1-3C am bob 300m sy'n cael ei ddringo, medden nhw, felly gallai hi fod yn 7C ar droed Yr Wyddfa yn Llanberis, tra'i bod yn -3C ar y copa.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhagolygon yn canolbwyntio ar elfennau fyddai o ddiddordeb i gerddwyr, fel cyflwr y tir

Mae rhagolygon ar gael sy'n edrych mewn mwy o fanylder ar elfennau fyddai o ddiddordeb i gerddwyr, gan gynnwys cyflwr y tir, cryfder gwynt, gwelededd a haul cryf.

Mae'r bartneriaeth yn annog cerddwyr i ymweld â gwefannau megis Rhagolygon Tywydd Mynyddoedd Eryri y Swyddfa Dywydd, dolen allanol neu Wasanaeth Gwybodaeth Tywydd Mynydd, dolen allanol.

Dywedodd Warden Parc Cenedlaethol Eryri, Carwyn ap Myrddin: "Rydan ni am i bawb sy'n dod yma fwynhau'r profiad o gerdded ar fynyddoedd Eryri.

"Felly, mae'n hanfodol i edrych ar ragolygon tywydd sydd wedi eu hanelu'n benodol at gerddwyr, er mwyn penderfynu os yw'r tywydd yn addas ar gyfer cerdded yn y mynyddoedd ac er mwyn paratoi'r offer cywir ar gyfer yr amodau sy'n cael eu rhagweld."