Manchester United 2-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Abertawe oddi cartref yn Manchester United wrth i'r Elyrch lwyddo i gadw allan o'r tri isaf yn y tabl diolch i ganlyniadau eraill ddydd Sadwrn.
Roedd Man Utd ar y blaen wedi pum munud yn unig. Romelu Lukaku oedd yn dathlu sgorio gôl rhif 100 yn Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl i'w ergyd daro Alfie Mawson cyn hedfan i gefn y rhwyd.
Utd oedd yn parhau i bwyso wedi'r gôl gyda Jessie Lingard yn beryglus yng nghanol cae ac yn creu problemau i amddiffyn Abertawe.
Fe ddyblodd y tîm cartref eu mantais ar ôl 20 munud gyda Alexis Sanchez yn sgorio ei ail gôl i'w glwb.
Cyfle ar ôl cyfle
Roedd Abertawe yn ei gweld hi'n anodd rheoli'r meddiant gyda Man Utd yn creu cyfle ar ôl cyfle at gôl Fabianski.
Daeth yr hanner cyntaf i ben gydag Abertawe yn methu cael unrhyw ergyd at y gôl a Man Utd yn llwyr reoli'r meddiant.
Fe ddechreuodd yr ail hanner gydag Abertawe yn dod a dau eilydd i'r maes. Tammy Abraham a Tom Carroll ymlaen yn lle Ki Sung-yeung a Nathan Dyer.
Colli Clucas
Fe aeth prynhawn Abertawe o ddrwg i waeth wrth i Sam Clucas, sydd wedi bod yn chwaraewr pwysig i'r Elyrch ers i Carvalhal ddod yn rheolwr, orfod gadael y maes gydag anaf.
Daeth cyfle cyntaf Abertawe at gôl wedi 58 munud. Ergyd Abraham ar y foli yn cael ei arbed yn wych gan David De Gea yn y gôl i Man Utd.
Roedd Abertawe yn creu cyfleoedd gyda'r eilyddion wrth wraidd y chwarae. Fe aeth Routledge, ddaeth i'r maes yn lle Clucas, yn agos at sgorio ond roedd yn camsefyll.
Cyfle Fabianski oedd hi y tro hwn i wneud arbediad gwych. Lukaku yn ergydio ond roedd golwr Abertawe yn y fan ar lle i arbed Man Utd rhag mynd 3-0 ar y blaen wedi 80 munud.
Daeth y gêm i ben gyda Man Utd yn haeddu'r fuddugoliaeth o 2-0, ar ôl i'r Elyrch ildio goliau cynnar yn Old Trafford.
Er i Abertawe golli, maen nhw wedi codi un lle i'r 15fed safle yn y tabl, wrth i Huddersfield ddisgyn un safle ar ôl colli yn Newcastle.