Tân gorsaf drenau'n parhau i amharu ar wasanaethau

  • Cyhoeddwyd
Cyffordd LlandudnoFfynhonnell y llun, Google

Bydd gorsaf drenau yn Sir Conwy yn parhau ynghau ddydd Llun ar ôl i dan ddifrodi'r adeilad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i orsaf Cyffordd Llandudno ddydd Sadwrn.

Mae'r digwyddiad wedi achosi newidiadau i wasanaethau rhwng Caergybi a Llandudno a gorsafoedd yng Nghaerdydd, Birmingham, Manceinion, Llundain a Blaenau Ffestiniog.

Dywedodd Trenau Arriva Cymru y byddai bysiau'n rhedeg rhwng Llandudno, Deganwy, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn.

Dywedodd National Rail na fyddai unrhyw drenau'n stopio yn yr orsaf am y tro: "Cyn i'r orsaf gael ei ail-agor, mae angen trwsio isadeiledd a bydd angen i beirianwyr wneud asesiadau diogelwch pellach."

Ychwanegodd National Rail y gallai'r newidiadau i wasanaethau barhau tan 4 Ebrill.

Mae Trenau Arriva Cymru'n dweud eu bod yn "gweithio'n agos" gyda phartneriaid i leihau'r effaith ar deithwyr.