Jazz Carlin i gario'r faner yng Ngemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd
Y nofwraig Jazz Carlin sydd wedi ei dewis i gario baner y Ddraig Goch i Gymru yn seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur ddydd Mercher.
Mae'r ferch 27 oed wedi ennill llwyth o fedalau yn ystod ei gyrfa yn y pwll, gan gynnwys medal aur ac arian yn y Gemau yn Glasgow pedair blynedd yn ôl ynghyd â dwy fedal arian yn y Gemau Olympaidd yn Rio yn 2016.
Fe fydd y seremoni i agor y Gemau yn swyddogol yn cael ei chynnal yn Stadiwm Carrara am 20:00 nos Fercher (11:00 yng Nghymru) gyda Carlin yn arwain dros 200 o athletwyr a swyddogion o Gymru.
Dyma fydd y pedwerydd tro i Jazz Carlin gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad ac mae hi'n gobeithio ychwanegu at y pedair medal y mae hi wedi eu hennill ers 2006.
Mae ganddi dri chyfle i wneud hynny dros y pythefnos nesaf, wrth iddi gystadlu yn y 400m dull rhydd, y 800m a'r ras gyfnewid 4x200m.
Dywedodd Jazz Carlin ei bod hi'n fraint cael y cyfle i arwain Tîm Cymru yn y seremoni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2018