'Diwylliant o fwlio' o fewn Mind Cymru medd cyn-weithwyr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Andrew Jones yn dweud bod y bwlio honedig wedi effeithio ar ei allu i wneud ei swydd

Mae "diwylliant gwenwynig o fwlio" o fewn elusen iechyd meddwl Mind Cymru, yn ôl rhai cyn-weithwyr.

Mae BBC Cymru wedi clywed nifer o honiadau gan unigolion oedd yn arfer gweithio ym mhencadlys y sefydliad yng Nghaerdydd sy'n honni bod bwlio yn systemig gyda staff yn cael eu "hynysu" a'u tanseilio.

Yn ôl yr elusen mae lles eu staff "yn flaenoriaeth" iddyn nhw a dim ond un honiad o fwlio gafodd ei gofnodi o fewn Mind Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf.

Cafodd yr achos hwnnw ei ddiystyru yn ôl yr elusen.

'Cythryblu ac ynysu'

Derbyniodd Mind Cymru bron i £1.6m gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd ddiwethaf, ac maen nhw'n cyflogi 21 o bobl.

Mae Andrew Jones, oedd yn gweithio i Mind rhwng Mehefin 2015 a Mawrth 2016, yn dweud ei fod fel petai'r elusen yn "chwarae gêm feddyliol".

"Fe fyddan nhw'n tynnu eich sylw i fân faterion, eich cythryblu ac yn eich ynysu," meddai.

"Yn sgil hynny, yn y pendraw does dim modd i chi gyflawni gofynion eich swydd, sy'n golygu bod eich perfformiad yn cael ei feirniadu ac mae bron a bod yn gylch cythreulig.

"Mae'n seicolegol iawn o ran ei effaith."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Andrew Jones mae bywydau pobl wedi eu difetha oherwydd y "diwylliant o fwlio" yn y sefydliad

Mae'r elusen yn cynnig cyngor ar fwlio o fewn sefydliadau, ond ychwanegodd Mr Jones ei fod yn "amlwg nad y'n nhw'n gallu cadw trefn ar eu hunain".

"Mae bywydau a bywoliaeth pobl yn cael eu difetha o ganlyniad i'r diwylliant gwenwynig o fwlio," meddai.

'Difaru' peidio siarad

Ar ôl gweithio i'r elusen am ddwy flynedd, fe adawodd Louise Watkins Mind Cymru yn 2017.

Mae'n dweud iddi deimlo'n "unig" a'n "ddiwerth" ar ôl dweud ei bod hi'n teimlo dan straen.

"Chi'n clywed y gair bwlio gan blant ysgol. Fel oedolyn, chi'n teimlo'n unig iawn a'n dechrau amau os mai eich dadansoddiad chi o'r sefyllfa sydd ar fai," meddai.

"Ond dyw e ddim. Does dim modd gwadu'r ffordd chi'n teimlo. Ond fel oedolyn chi'n teimlo mor ddwl.

"Wrth edrych 'nôl, rwy'n difaru peidio codi llais cyn gadael."

Mae BBC Cymru wedi clywed honiadau pellach gan ddau gyn-weithiwr arall sy'n dweud eu bod wedi dioddef mewn ffyrdd tebyg.

Disgrifiad,

Mae bwlio yn "faes anodd" yn ôl Bethan Darwin

Dywedodd y gyfreithwraig Bethan Darwin o gwmni Thompson Darwin Law bod yr hyn sy'n cael ei ystyried yn fwlio yn ôl y gyfraith yn amrywio.

"Mae yna ddiffiniad penodol o aflonyddu, sy'n debyg mewn rhai ffyrdd, o dan y ddeddf cydraddoldeb. Ond o ran bwlio, does yna ddim diffiniad penodedig," meddai.

Mae'n dweud bod polisïau cwmnïau'n sôn am "ymddygiad sarhaus, bygythiol, maleisus" neu fod pobl yn cael eu "tanseilio neu yn cael eu bychanu", ond bod y diffiniad yn "eithaf eang".

Ychwanegodd ei fod yn faes "anodd" os oes honiad o fwlio'n cael ei wneud.

"Falle bod y person arall ddim yn teimlo bod nhw wedi bwlio, ond mae'r ffaith bod y person wedi creu'r gwyn - mae gennych chi broblem wedyn, hyd yn oed os falle dyw e ddim yn deg i ddweud eich bod chi wedi cael eich bwlio," meddai.

Lles yn 'flaenoriaeth'

Dywedodd Prif Weithredwr Mind Cymru, Paul Ward bod "lles staff yn flaenoriaeth" a bod clywed bod gweithwyr wedi cael profiadau gwael "yn ein tristáu".

"Does dim lle i fwlio o fewn Mind Cymru, ac rydyn ni'n cymryd unrhyw honiadau o ddifri'," meddai.

"Rydym bob amser yn annog unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn â bwlio i dynnu sylw at y sefyllfa, yn ddienw os ydynt yn dymuno, ac mae gennym ni broses rheoli ac adnoddau dynol clir er mwyn mynd i'r afael ag achosion o'r fath."

Ymchwiliad llawn

Ychwanegodd Mr Ward mai un honiad o fwlio sydd wedi ei wneud gan aelod o staff Mind Cymru yn y ddwy flynedd diwethaf.

Dywedodd bod "ymchwiliad llawn a chynhwysfawr" wedi ei gynnal, bod yr honiad wedi ei ddiystyru ac y byddai'n "amhriodol" i ddweud mwy am yr achos.

Ychwanegodd: "Rydym yn ddiolchgar bod y materion hyn wedi dod i'n sylw ac mae'n ddrwg gennym os oes yna unrhyw un erioed wedi teimlo na allan nhw rannu eu pryderon wrth gael eu cyflogi gan Mind.

"Rydyn ni yn eu hannog i gysylltu â ni yn uniongyrchol nawr."