Clwb Tramshed yng Nghaerdydd i gael agor nes 03:00

  • Cyhoeddwyd
TramshedFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tramshed wedi cynnig sawl mesur i reoli aflonyddwch ar y safle

Mae clwb Tramshed yng Nghaerdydd wedi cael caniatâd i agor nes 03:00 er bod yr heddlu a thrigolion yn gwrthwynebu'r syniad.

Mae Tramshed, sy'n cynnal digwyddiadau amrywiol, o gerddoriaeth byw i nosweithiau comedi, wedi derbyn yr hawl i aros ar agor tan yn hwyr ar 20 "achlysur arbennig" y flwyddyn.

Roedd Heddlu De Cymru yn gwrthwynebu'r cynnig oherwydd pryder am gynnydd posib mewn trosedd ac anrhefn gyhoeddus.

Mae adroddiadau hefyd bod trigolion yr ardal wedi cwyno am sŵn tu allan i'r lleoliad.

Bydd y lleoliad nawr yn cael gwerthu alcohol nes 02:30 ac agor nes 03:00 os ydyn nhw'n rhoi gwybod i'r heddlu 21 diwrnod o flaen llaw.

'Achosi helynt'

Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi gorfod darparu cefnogaeth ychwanegol yn ddiweddar er mwyn rhwystro problemau cynyddol o drosedd ac anhrefn.

"Mewn digwyddiadau diweddar, mae pobl sydd yn gadael y lleoliad wedi achosi helynt ac wedi gadael llanast ar eu hôl," meddai'r llu.

"Wrth ehangu'r oriau agor, mae Heddlu De Cymru yn credu y bydd cynnydd mewn trosedd ac anrhefn yn yr ardal."

Cynnig mesurau

Mae Tramshed wedi cynnig cyfres o fesurau er mwyn lleihau'r problemau.

Dywedodd eu cyfreithiwr, Paddy Whurr, wrth wrandawiad Cyngor Caerdydd ddydd Gwener bod 144 o gigs wedi cael eu cynnal yno rhwng mis Medi y llynedd a mis Mawrth eleni.

Ychwanegodd mai dim ond 10 "digwyddiad troseddol" gafodd eu cofnodi yn y cyfnod yma, ac mai dim ond dau ddigwyddiad troseddol gafodd eu cofnodi yn y 90 gig cyn hynny.