Pro14: Gweilch 39-10 Connacht

  • Cyhoeddwyd
Dan EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y cefnwr Dan Evans sgoriodd ail gais y Gweilch

Cafodd y Gweilch hwb i'w gobeithion o fod yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf gyda buddugoliaeth pwynt bonws dros Connacht nos Wener.

Aeth y tîm cartref ar y blaen gyda chais gan yr asgellwr Jeff Hassler o ryng-gipiad, cyn i'r Gwyddelod daro 'nôl gyda chais Craig Ronaldson.

Y cefnwr Dan Evans sgoriodd ail gais y Gweilch, tra bo Dan Biggar wedi cicio 10 pwynt yn yr hanner cyntaf i'w gwneud yn 20-10 ar yr egwyl.

Cafodd y Cymry ddechrau da i'r ail hanner hefyd, wrth i Scott Otten groesi cyn i Ashley Beck sicrhau'r pwynt bonws gydag 20 munud yn weddill.

Fe wnaeth Hanno Dirksen ychwanegu pumed i'r Gweilch, tra bod Biggar wedi ychwanegu pedwar pwynt arall yn yr ail hanner.