Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Wolves

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Junior Hoilett daro'r traws gydag ail gic o'r smotyn Caerdydd

Mae Caerdydd wedi methu'r cyfle i gau'r bwlch ar Wolves ar frig y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw golli ar ôl methu dwy gic o'r smotyn yn amser ychwanegol.

Roedd torf o bron i 30,000 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac roedd hi'n hanner cynnar cyfartal, ond di-sgôr.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen gyda chic rydd Ruben Neves ar ôl 67 munud, ond roedd yr Adar Gleision yn pwyso i'w gwneud yn gyfartal.

Daeth drama hwyr wrth i'r dyfarnwr roi cic o'r smotyn i'r tîm cartref yn dilyn trosedd gan Conor Coady yn amser ychwanegol, ond fe wnaeth John Ruddy arbed ergyd Gary Madine.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gary Madine a Junior Hoilett fethu manteisio o'u ciciau o'r smotyn

Funud yn unig yn ddiweddarach fe wnaeth Mike Dean roi cyfle arall i'r Cymry o'r smotyn, y tro yma am drosedd ar Aron Gunnarsson gan Ivan Cavaleiro.

Junior Hoilett oedd â'r cyfrifoldeb y tro yma, ond fe wnaeth ei ergyd daro'r trawst eiliadau'n unig cyn y chwiban olaf.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn aros pum pwynt ar y blaen i Fulham sy'n drydydd, gyda chwe gêm yn weddill.

Mae Wolves bellach naw pwynt yn glir ar y brig, ond wedi chwarae un gêm yn fwy.