Uwchgynghrair Lloegr: West Bromwich Albion 1-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr AbertaweFfynhonnell y llun, Reuters

Mae gobeithion Abertawe o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yn parhau wedi gêm gyfartal yn erbyn West Bromwich Albion.

Fe fethodd Andre Ayew a manteisio ar gyfle gorau'r hanner cyntaf - oedd oni bai am hynny yn hanner difflach o bêl droed.

Jay Rodriguez gafodd gôl gynta'r gêm wedi 55 munud i'r tîm cartref ond fe darodd Yr Elyrch yn ôl gyda'r gôl yn dod gan Tammy Abraham.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe wedi cipio pwynt pwysig.