Pro14: Cheetahs 29-27 Gleision
- Cyhoeddwyd
Ar ôl hunllef o daith gymerodd 55 awr cafodd Gleision Caerdydd hunllef o ganlyniad ar ôl iddyn nhw ildio cais cosb ar ddiwedd eu gêm yn Bloemfontein, De Affrica.
29-27 oedd y sgôr terfynol ar ôl chwarae 87 munud o gêm anhygoel.
Y Cheetahs oedd yn rheoli'r hanner cyntaf gan sgorio tri chais i ddim a'r sgôr yn 22-6.
Ond yn yr ail hanner daeth y Gleision yn ôl yn gryf. Sgoriwyd ceisiau iddynt gan Owen Lane, Halaholo a Lee-Lo i'w rhoi ar y blaen o 22-27 gyda dim ond 10 munud ar ôl.
Gyda'r gêm yn tynnu at ei therfyn cafodd Alex Cuthbert gerdyn melyn am daro'r bêl ymlaen yn fwriadol.
Yna ar ôl cyfres o sgrymiau wrth linell gais y Gleision dyfarnwyd cais gosb i'r Cheetahs gan gipio buddugoliaeth o drwch blewyn.
Torcalon i'r Gleision ond pedwar cais a phwynt bonws i'r Cheetahs.