Anaf yn gorfodi Dai Greene i beidio cystadlu

  • Cyhoeddwyd
Dai Greene hurdlingFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhedwr clwydi 400m Tîm Cymru, Dai Greene, wedi cael ei orfodi i beidio â chystadlu yn yr Arfordir Aur oherwydd anaf i linyn y gar.

Rhwygodd Dai, sy'n gyn-Bencampwr y Byd, Ewrop a'r Gymanwlad, ei gyhyr yn ddifrifol wrth hyfforddi yn Awstralia sy'n golygu na fydd yn medru cystadlu yn rhagbrofion y ras 400m dros y clwydi ddydd Mawrth.

Dywedodd: "Rwy'n hynod siomedig o golli allan ar y cyfle i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad am y pedwerydd tro.

"Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn emosiynol iawn ac mae hyn yn siom fawr mor hwyr yn y dydd.

"Mae cynrychioli Cymru yn golygu llawer iawn i mi. Dyna pam y brwydrais mor galed i wella o fy anaf blaenorol er mwyn sicrhau y byddwn yn cyrraedd y Gemau."

Cefnogi eraill

Dywedodd llefarydd y bydd Greene, sy'n cael ei ben-blwydd yn 32 oed ddydd Mercher, yn troi ei olygon yn awr at gefnogi ei gyd-athletwyr wrth iddyn nhw gystadlu yn yr Arfordir Aur.

Ychwanegodd Greene: "Mae yna grŵp anhygoel o athletwyr allan yma ac mi fyddaf yn eu cefnogi gant y cant wrth iddyn nhw anelu am fwy o fedalau.

"Rydyn ni wedi cael cychwyn arbennig wrth i Bethan Davies ennill y fedal efydd yn y gystadleuaeth gyntaf ac yna Livvy Breen yn cipio'r aur.

"Rwy'n hyderus fod mwy o fedalau i ddod ac rwy'n edrych ymlaen at ddathlu'r llwyddiant hwnnw."

Wrth ymateb i benderfyniad Dai i dynnu'n ôl, meddal Chef de Mission Tîm Cymru, yr Athro Nicola Phillips:

"Yn amlwg, rydyn ni'n rhannu siomedigaeth Dai. Mae bob amser yn ergyd colli athletwr o'i galibr ef, sy'n gwybod cymaint o ymroddiad sydd ei angen i ennill yng Ngemau'r Gymanwlad.

"Byddwn yn cynnig pob cefnogaeth i Dai ac yn edrych ymlaen i'w weld yn ôl ar y trac yn fuan."

Argoeli'n addawol

Dywedodd Scott Simpson, Pennaeth Perfformiad gydag Athletau Cymru: "Roedden ni i gyd yn hynod falch o'r hyn y llwyddodd Dai i'w gyflawni yn Ne Affrica ym mis Chwefror.

"Roedd yn gwbl anhygoel iddo gyflawni'r safon A ddwywaith a sicrhau ei le yn y Gemau. Roedd ei berfformiad yn argoeli'n addawol iawn ar gyfer llwyddiant yma yn Awstralia.

"Bu'n hyfforddi'n gadarn wedi'r rasys hynny, ond ar ôl cyrraedd yr Arfordir Aur cafodd anaf i linyn y gar nad yw wedi medru gwella ohono er gwaethaf ein holl ymdrechion."