Trydydd medal aur i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd

Mae Olivia Breen wedi cipio medal aur yn y naid hir T38 yng Ngemau'r Gymanwlad.
Fe chwalodd ei record bersonol a record y gemau gyda naid o 4.86m.
Dyma'r trydydd medal aur i Gymru yn Arfordir Aur.
Mae Bethan Davies hefyd wedi cael medal efydd i Gymru yn y ras gerdded 20km.
Dywedodd y ferch 27 oed o Gaerdydd ei bod wrth ei bodd.
"Mae'n siŵr fod e'n ddigwyddiad athletaidd sydd ddim yn cael llawer o sylw. Felly gobeithio trwy gyflawni hyn y bydd pobl yn dechrau deall ychydig mwy am y gamp," meddai.
Medal arian gafodd Laura Daniels a hynny yn y bowlio unigol i ferched tra bod Laura Hughes wedi dod yn drydydd yn y codi pwysau 75Kg.
Dyma'r 10fed medal i Gymru hyd yn hyn yn y gemau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2018