Anweledig yn dychwelyd i lwyfan y Sesiwn Fawr

  • Cyhoeddwyd
Anweledig

Bydd y band Anweledig yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed mewn steil eleni drwy ymddangos yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r grŵp o Flaenau Ffestinog gymryd rhan yn yr ŵyl. Mae perthynas wedi bod rhwng y ddau ers y dyddiau cynnar, ddechrau'r 90au, a hynny pan oedd nifer o'r aelodau yn fyfyrwyr yng Ngholeg Meirion Dwyfor.

Un o berfformiadau mwyaf cofiadwy Anweledig yn Nolgellau oedd y flwyddyn pan rannodd y band lwyfan gyda'r Levellers, The Alarm a'r Saw Doctors yng ngŵyl 2002.

Gorffennaf Gwyllt

Cyhoeddodd dau o aelodau'r band, Gai Toms a Ceri Cunnington, ar raglen Tudur Owen ar BBC Radio Cymru eu bod hefyd am fod yn perfformio yng Ngŵyl Car Gwyllt, Blaenau Ffestiniog, Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf.

Meddai Gai: "Roedd 'na lot o bobl yn holi a d'eud 'sa hi'n dda gweld Anweledig ar lwyfan eto, ond doeddan ni ddim 'di meddwl amdano fo. Eleni ydy'r pen-blwydd 25ain, felly os oedden ni am ei 'neud o, ei 'neud o rŵan 'de. Mae hi 'di bod yn drafodaeth hir, achos ma' bywyd mor wahanol y dyddia' yma, efo gwaith a plant..."

Mae hi'n 11 o flynyddoedd ers i'r band roi'r gorau iddi. Soniodd Ceri: "Y profiad byw oedd o erioed efo Anweledig, a dyna 'da ni isho ail-afael ynddo, i brofi i ni'n hunain. Mae hi'n hawdd cofio'n ôl a meddwl pa mor dda oedden ni!"

Bydd band arall yn dathlu pen-blwydd arbennig drwy berfformio yn y Sesiwn Fawr hefyd, sef Ail Symudiad, sy'n 40 oed eleni. Bydd y criw o Aberteifi yn ymuno ag Anweledig ar y prif lwyfan ar y nos Wener.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ail Symudiad ar raglen Stiwdio Gefn, S4C

Mae artistiaid eraill yr ŵyl eleni yn cynnwys Omaloma, Gwyneth Glyn, Mr Phormula a Himyrs a'r Band, tra bydd La Inedita o Peru, Ortzadar Taldea o Wlad y Basg, a Ye Vagabonds o Iwerddon yn dod â blas rhyngwladol i'r penwythnos.

Bydd Sesiwn Fawr Dolgellau, dolen allanol yn cael ei chynnal 20-22 Gorffennaf.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y band Ye Vagabonds yn dod â naws Wyddelig i'r ŵyl yn Nolgellau

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol