Seithfed aur i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad

  • Cyhoeddwyd
David PhelpsFfynhonnell y llun, Reuters

Mae Cymru wedi ennill seithfed medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad.

Enillodd David Phelps aur yn y saethu reiffl 50m, gan osod record newydd Gemau'r Gymanwlad yn y broses.

Ar ei ben-blwydd yn 41 oed, dywedodd ei fod yn "sypreis braf iawn" i ennill.

Hefyd yn y saethu, enillodd Gareth Morris a Chris Watson fedal arian yn y parau.

Ac wrth i'r cystadlu ddod i ben am y diwrnod yn Arfordir Aur ddydd Mawrth fe gipiodd yr athletwraig Melissa Courtney fedal efydd yn y ras 1500m.

Medalau yn y pwll

Yn y pwll ddydd Mawrth fe wnaeth Dan Jervis sicrhau medal arian yn y nofio 1500m dull rhydd, ac fe gafodd Georgia Davies fedal efydd yn y nofio 50m dull cefn.

Yn dilyn hynny fe lwyddodd tîm ras gyfnewid 4x100m dull cymysg Cymru - oedd yn cynnwys Davies, Chloe Tutton, Alys Thomas a Kathryn Greenslade - gipio medal efydd arall.

Mae'n golygu bod Tîm Cymru bellach wedi cipio 22 o fedalau yn y Gemau - saith aur, wyth arian a saith efydd.

Ond penderfynodd Jazz Carlin beidio cystadlu yn y nofio 400m dull rhydd.

Ddydd Llun, fe orffennodd Carlin yn chweched yn y ras 800m dull rhydd wnaeth hi ei ennill yn 2014.