Carcharu dyn o Wynedd fu ar ffo am 13 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Llys

Mae dyn o Wynedd a dreuliodd bron i 13 mlynedd ar ffo ar ôl cael ei gyhuddo o droseddau'n ymwneud â lluniau anweddus o blant, wedi ei garcharu.

Fe ddiflannodd Michael Murray, 76, o'i gartref yn Arthog ger Dolgellau, ar ôl i'r heddlu chwilio'r eiddo yn 2004.

Cafodd ei arestio, ond clywodd y llys bod Murray wedi gadael Cymru i fynd i China y diwrnod canlynol.

Dychwelodd i Brydain oherwydd salwch ym mis Mawrth, a'i garcharu am droseddau lluniau plant ac am dorri amodau ei fechnïaeth.

Swydd yn China

Ar ôl cael ei arestio, symudodd Murray i China, cyn symud i Awstralia rai blynyddoedd yn ddiweddarach.

Dywedodd Elen Owen, bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyn: "Penderfynodd Mr Murray adael yr awdurdodaeth ac fe gafodd swydd yn y brifysgol yn China, lle arhosodd nes iddo orfod ymddeol.

"Roedd yn ddarlithydd mewn pynciau sy'n cynnwys newyddiaduraeth. Yn 2014 fe ymddeolodd cyn symud i Awstralia."

Ychwanegodd bod Murray wedi dioddef canser y brostad yn 2016, ac oherwydd cost triniaeth dramor fe benderfynodd hedfan yn ôl i Brydain.

Cafodd y pensiynwr ei arestio ym maes awyr Heathrow ar 10 Mawrth.

53 o luniau anweddus

Cafodd ei garcharu am chwe mis mewn gwrandawiad blaenorol ar ôl iddo gyfaddef torri amodau ei fechnïaeth.

Ond yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, fe gafodd ei garcharu am wyth wythnos ychwanegol am saith o droseddau'n ymwneud â lluniau anweddus o blant.

Clywodd y llys bod 53 o luniau anweddus wedi'u darganfod.

Dywedodd bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad, Siôn ap Mihangel, fod Murray wedi pledio'n euog yn hen Lys Ynadon Dolgellau cyn ffoi.

Dywedodd y Barnwr Huw Rees wrth Murray ei fod yn ddyn addysgedig iawn, ond ei fod wedi cyflawni troseddau difrifol rhwng Mawrth 2003 a Medi 2004.