Carcharu Tony Buttigieg am geisio trywanu plismon
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a geisiodd drywanu plismon gyda dwy gyllell ar ôl cael ei saethu gyda taser wedi cael ei garcharu am bedair blynedd.
Cafodd swyddogion eu galw i fflatiau yng Nghaerllion ar 2 Hydref 2017 yn dilyn adroddiadau fod Tony Buttigieg yn ymddwyn yn afreolus ac yn curo ar ddrysau.
Ni chafodd PC Rhydian Jones ei anafu yn ystod yr ymosodiad am ei fod yn gwisgo fest diogelwch, ond clywodd y llys ei fod yn "wirioneddol yn poeni am ei fywyd" ac mai dyma oedd "digwyddiad mwyaf brawychus ei fywyd".
Wrth garcharu Buttigieg, dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC y byddai'n rhaid iddo dreulio hanner y ddedfryd o dan glo cyn cael gwneud cais am barôl.
Mae PC Jones a'r swyddogion eraill a fu'n rhan o'r digwyddiad wedi derbyn cymeradwyaeth gan Brif Gwnstabl Heddlu Gwent am eu dewrder.
Colli swydd a chariad
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Abertawe, fe glywodd y rheithgor fod Buttigieg wedi cael tri mis anodd cyn y digwyddiad, a'i fod wedi colli ei swydd a bod ei berthynas gyda'i gariad wedi dod i ben.
Ychydig cyn yr ymosodiad, fe gysylltodd cymydog â'r heddlu yn dweud ei bod hi'n ofnus am fod y diffynnydd yn cnocio'n galed ar ei drws ac yn ymddwyn yn afreolus.
Clywodd y llys fod Buttigieg o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol ar y pryd, ac fe wnaeth y barnwr gydnabod bod tystiolaeth feddygol yn dangos ei fod yn mynd drwy "gyfnod seicotig" ar y pryd.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu'r fflatiau, roedd y diffynnydd yn gwrthod cydnabod mai plismyn oedden nhw, ac yn credu eu bod nhw ar ei ôl.
Fe geisiodd y plismyn dawelu Buttigieg, ond fe ddangosodd lluniau o gamera oedd ar wisg un ohonynt ei fod yn mynd yn gynyddol flin.
Mae'r lluniau'n dangos y diffynnydd gyda dwy gyllell cegin fawr, a phan gafodd ei rybuddio gan y plismyn y bydden nhw'n tanio taser ato os na fyddai'n ildio'r cyllyll, fe neidiodd amdanyn nhw drwy ddrws.
Yn ystod gwrandawiad llys yn Chwefror eleni fe blediodd Buttigieg yn euog i gyhuddiad o geisio achosi niwed corfforol difrifol.
Ar ddiwedd yr achos fore Mawrth, dywedodd y barnwr fod y digwyddiad hwn yn "un unigryw, yn enwedig wrth ystyried yr amgylchiadau".
Dywedodd hefyd bod yna "arwyddion cadarnhaol eich bod chi bellach yn rhydd o ddylanwadau alcohol a chyffuriau".
"Rwy'n ffyddiog eich bod chi wedi eich cywilyddio gan y lluniau oedd i'w gweld ar y camera corff a'ch bod chi'n edifar am yr hyn a ddigwyddodd."
Ond dywedodd nad oedd yn gallu anwybyddu'r trawma a gafodd ei achosi i'r swyddogion heddlu ac fe gafodd ei garcharu am bedair blynedd.
Ym mis Mawrth fe gafodd PC Rhydian Jones, PC Gareth Marsh a PC Ashley Cotton gymeradwyaeth gan Brif Gwnstabl Heddlu Gwent am eu dewrder wrth ymateb i'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2018