Y Gynghrair Genedlaethol: Ebbsfleet 3-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam wedi disgyn i'r seithfed safle yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl iddyn nhw gael cweir yn Ebbsfleet nos Fawrth.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner wrth i bas dda gan Jack Powell arwain at gôl i'r ymosodwr Corey Whitely.

Fe wnaethon nhw ddyblu eu mantais yn y 10 munud olaf, gyda Danny Kedwell yn ergydio heibio i'r golwr Chris Dunn.

Ychwanegodd Luke Coulson drydedd gôl yn amser ychwanegol gydag ergyd bwerus o bellter.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Dreigiau bellach heb ennill yn eu pedair gêm ddiwethaf, ac yn disgyn i'r seithfed safle yn y tabl gyda thair gêm yn weddill o'r tymor.