Pro 14: Ulster 8-0 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth cais ym munud olaf y gêm sicrhau fod y Gweilch yn dychwelyd o'u taith i Belfast yn waglaw er gwaethaf ymdrech amddiffynnol ddewr.
Daeth pwyntiau cyntaf y gêm - yr unig rai o'r hanner cyntaf - o gic gosb John Cooney wedi chwe munud.
Cafodd y ddau dîm gyfleoedd i ychwanegu at y sgôr, ac roedd y Gweilch yn meddwl eu bod nhw wedi mynd ar y blaen gyda 10 munud yn weddill o'r hanner pan groesodd Kieron Fonotia y llinell gais.
Ond chafodd hi ddim ei chaniatáu, yn dilyn trosedd gan Alun Wyn Jones yn y ryc blaenorol, ac felly'r tîm cartref aeth i mewn ar yr egwyl ar y blaen.
Ulster oedd yn gwneud y rhan fwyaf o'r pwyso ar ddechrau'r ail hanner, a bu'n rhaid i'r Gweilch chwarae gyda 14 dyn am gyfnod wedi i'r asgellwr Jeff Hassler gael cerdyn melyn.
Gyda 12 munud i fynd tro'r Gwyddelod oedd hi i gael cais wedi'i wrthod gan y dyfarnwr teledu, a hynny am nad oedd Nick Timoney mewn rheolaeth o'r bêl pan groesodd yn y gornel.
Ond wrth i'r Gweilch bwyso am sgôr hwyr, fe fanteisiodd Jacob Stockdale ar bas lac a rhedeg hanner hyd y cae i dirio a sicrhau'r fuddugoliaeth i Ulster, gan amddifadu'r ymwelwyr o bwynt bonws.
Mae'r canlyniad yn golygu bod y Gweilch yn parhau i fod yn bumed yn Adran A y Pro 14.