Uwchgynghrair Lloegr: Abertawe 1-1 Everton

  • Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Kyle Naughton rwydo i gôl ei hunFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kyle Naughton rwydo i gôl ei hun wrth geisio clirio'r bel ar ôl ergyd Idrissa Gueye

Fe wnaeth gôl yn yr ail hanner achub pwynt i Abertawe yn erbyn Everton yn Stadiwm Liberty wrth i'r tîm cartref barhau â'u brwydr i osgoi cwympo i'r Bencampwriaeth.

Er i'r Elyrch fwynhau y rhan fwyaf o'r bêl yn yr hanner cyntaf gyda dau ergyd yn cael eu clirio o'r llinell gôl, Everton aeth ar y blaen.

Roedd mantais yr ymwelwyr yn groes i rediad y chwarae ar ôl i Kyle Naughton rwydo i gôl ei hun.

Parhaodd Abertawe i bwyso ac i gadw rheolaeth wedi'r egwyl, gyda gôl Jordan Ayew yn dod a'r sgôr yn gyfartal.

Golygai'r canlyniad fod Abertawe yn gostwng un safle i 17, ond maen nhw bum pwynt yn glir o Southampton wnaeth golli 3-2 yn erbyn Chelsea.