Cynghrair Cenedlaethol: Wrecsam 1-2 Dagenham & Redbridge

  • Cyhoeddwyd
Cynghrair CenedlaetholFfynhonnell y llun, Getty Images

Methiant fu ymdrechion Wrecsam i roi ail wynt i'w hymdrechion i gyrraedd y gemau ail gyfle wrth iddynt golli gartref yn erbyn Dagenham & Redbridge.

Mae'n golygu eu bod wedi mynd pum gem heb fuddugoliaeth.

Gôl Paul Rutherford roddodd y Cochion ar y blaen cyn yr egwyl, dim ond i Fejiri Okenabirhie daro nôl i'r ymwelwyr.

Roedd Wrecsam yn meddwl iddynt fynd yn ôl ar y blaen, ond methodd ymdrech Scott Quigley i groesi'r llinell.

Yna, aeth pethau o ddrwg i waeth pan sgoriodd David Raven i'w rwyd ei hun.

Mae'r canlyniad yn golygu nad yw Wrecsam wedi ennill gem ers i'r cyn reolwr Dean Keates adael y clwb i ymuno â Walsall.