Cymru yn gorffen yn y seithfed safle ar yr Arfordir Aur
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi gorffen yn y seithfed safle yn y tabl medalau yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 a hynny er gwaethaf iddynt beidio ag ychwanegu at eu cyfanswm ar y diwrnod olaf o gystadlu.
Fe wnaeth Tîm Cymru ddathlu record newydd o 36 medal, gan gynnwys deg medal aur, 12 arian a 14 efydd.
Gorffennodd Cymru ar y blaen i'r Alban. Awstralia oedd ar y brig gyda Lloegr yn ail.
Gareth Evans, y codwr pwysau o Gaergybi ac enillydd medal aur, fydd yn cario baner Cymru yn y seremoni cloi.
Fe wnaeth saith medal ar y diwrnod olaf ond un o gystadlu ar yr Arfordir Aur yn Awstralia sicrhau record newydd i Gymru.
Mae'r cyfanswm medalau gystal â'r nifer uchaf yn Glasgow yn 2014, ond yr adeg hynny dim ond pum medal aur gafodd y tîm.
Mae cyfanswm 2018 o ddeg medal aur gystal â'r cyfanswm medalau aur yn Auckland yn 1990, ond yn y gemau hynny yn Seland Newydd dim ond cyfanswm o 25 o fedalau gafodd y tîm.