Cymru yn dod yn gyfartal â'u record orau yn y Gymanwlad
- Cyhoeddwyd
![Roedd yna feda efydd i Dani Rowe](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15905/production/_100852388_p0648cjj.jpg)
Roedd yna fedal efydd i Dani Rowe
Mae tîm Cymru wedi yn dod yn gyfartal â'u record orau o fedalau yng Ngemau'r Gymanwlad - sef 36 -ar ôl diwrnod llwyddiannus arall ar yr Arfordir Aur.
Llwyddodd Cymru hefyd i ddod yn gyfartal â'r nifer mwyaf o fedalau aur (10) iddynt gasglu yn y Gemau ar y diwrnod olaf ond un yn y cystadlu.
Roedd yna aur i Gymru, gyda'r saethwr Michael Wixey yn cyrraedd y brig, gyda medalau aur hefyd i'r bocswyr Lauren Price a Sammy Lee.
Yn gynharach yn y cystadlu roedd yna efydd i'r seiclwr Dani Rowe ac i'r chwaraewr tenis bwrdd Joshua Stacey yn y cystadlaethau para athletaidd.
Fe wnaeth Jon Mould sicrhau medal arian yn y beicio ffordd ac roedd yna arian hefyd i Rosie Eccles yn y sgwâr focsio.
Mae cyfanswm y medalau - 36 - gystal â'r nifer gafodd eu hennill yn Glasgow yn 2014.
Mae nifer y medalau aur 10, yn gyfartal ag Auckland yn 1990, gan olygu mai Gemau Arfordir Aur yw'r mwyaf llwyddiannus.
Mae gan Gymru 10 medal aur, 12 arian a 14 efydd.
![Michael Wixey](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/131F5/production/_100852387_michaelwixeygetty.jpg)
Michael Wixey yn dathlu ei fedal aur
![Lauren Price](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/999D/production/_100852393_p06491xg.jpg)
Lauren Price