Galw am ffurfio heddlu arbenigol i 'leihau damweiniau'

  • Cyhoeddwyd
Jessica Morden
Disgrifiad o’r llun,

Jessica Morden yw AS Dwyrain Casnewydd

Mae'r galw am weld cangen arbenigol o'r heddlu i ymchwilio i ddamweiniau ffordd yn cynyddu, fel rhan o ymgyrch i leihau'r nifer o wrthdrawiadau angheuol.

Dywedodd Jessica Morden, AS Dwyrain Casnewydd y byddai corff Prydeinig yn gallu sylwi ar dueddiadau cyffredinol a dysgu gwersi ehangach.

Yng Nghymru'r llynedd cafodd dros 500 achos lle gafodd yr heddlu eu galw eu cofnodi, gan gynnwys 107 o farwolaethau.

Mae elusen Brake a sefydliad yr RAC eisoes wedi cefnogi'r ymgyrch.

'Cefnogi nid cystadlu'

"Mae gan bob heddlu eu canghennau gwrthdrawiadau ffordd eu hunain ac mae gwaith gwych yn cael ei wneud," meddai Ms Morden, a ddaeth i glywed am yr ymgyrch drwy deulu yn ei hetholaeth a gollodd eu merch yn 2017.

"Ond ar hyn o bryd does dim un corff annibynnol ym Mhrydain sy'n gallu cefnogi'r ymchwilwyr yma, nid cystadlu â nhw, er mwyn rhwystro digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

"Mae yna sefydliadau eisoes yn bodoli i ymchwilio i ddamweiniau ar ein rheilffyrdd, yn yr awyr ac ar y môr ond dim byd ar gyfer ein ffyrdd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd heddluoedd Cymru eu galw i dros 500 o ddamweiniau "difrifol" yn 2017

Mae nifer y damweiniau angheuol wedi lleihau dros y ddegawd ddiwethaf ar hyd y DU.

Er hyn, mae ffigyrau a gafodd eu casglu gan BBC Cymru yn awgrymu bod heddluoedd Cymru wedi eu galw i dros 500 o achosion difrifol yn 2017, gan nodi 107 o farwolaethau.

'Synnwyr perffaith'

Dywedodd Ms Morden mai pwrpas y sefydliad newydd fyddai ceisio darganfod y dulliau fwyaf effeithiol o leihau marwolaethau ar y ffordd.

"Mae'n gwneud synnwyr perffaith i gyfuno gwybodaeth er mwyn dysgu gwersi."

Dywedodd Sarjant Bob Witherall fod yna gamddealltwriaeth cyffredinol am y gwaith mae'r heddlu yn ei wneud wrth archwilio damweiniau ffordd.

"Byddwn ni ar y safle gyda'n llygaid at y llawr yn chwilio am y manylyn lleiaf, dyna pam ei bod hi'n cymryd mor hir weithiau, dyna pa mor fanwl sydd yn rhaid i ni fod.

"Does neb yn gwybod beth all ddigwydd fel rhan o ymchwiliad, felly mae'n rhaid i ni gasglu pob manylyn posib."

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth nad oedd ganddyn nhw fwy o sylw i'w wneud yn dilyn sylwadau Jesse Norman, Gweinidog dros Drafnidiaeth a ddywedodd eu bod nhw'n edrych ar y posibilrwydd o sefydlu corff cenedlaethol yn fanwl iawn.