Arglwydd Morris: 'Hawl gyfreithiol i ymyrryd yn Syria'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Dwrnai Cyffredinol Llafur yn dweud ei fod yn credu bod yna hawl gyfreithiol i Lywodraeth y DU i ymyrryd yn filwrol yn Syria ar sail ddyngarol, ond mai "cam gwag" oedd peidio cael cefnogaeth Tŷ'r Cyffredin cyn gweithredu.
Dywedodd yr Arglwydd Morris o Abarafan, John Morris ei fod yn cytuno â'r cyngor a roddodd y Twrnai Cyffredinol presennol i'r Prif Weinidog, Theresa May cyn i'r DU, Ffrainc a'r Unol Daleithiau fomio Syria dros y penwythnos mewn ymateb i ymosodiad cemegol honedig yn ninas Douma.
Mae'r sefyllfa, meddai, yn cymharu â'r ymateb i'r argyfwng dyngarol yn Kosovo yn 1999 pan roddodd yntau fel Twrnai Cyffredinol gyngor i lywodraeth Tony Blair bod dadl gref dros weithredu'n filwrol.
Brynhawn Llun fe wnaeth Theresa May annerch Tŷ'r Cyffredin ynglŷn â'i phenderfyniad i ymuno â'r cyrchoedd heb gynnal pleidlais seneddol.
Trafod yn y Senedd
Dywedodd y prif weinidog nad oedd amheuaeth mai llywodraeth Syria oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad cemegol wnaeth arwain at yr ymyrraeth.
Roedd y DU wedi methu â gweithredu ar lefel y Cenhedloedd Unedig oherwydd feto Rwsia, meddai wrth ASau, a doedd gweithredu'n ddiplomyddol yn unig ddim am weithio.
Ychwanegodd Mrs May fod y cyrch wedi ei gynnal gyda'r bwriad o "leihau dioddefaint dyngarol pobl Syria" yn y pen draw, ac y byddai hi'n cael ei dwyn i gyfrif yn Nhŷ'r Cyffredin am ei phenderfyniad.
Mae'r gwrthbleidiau wedi dweud y dylid fod wedi dod â'r mater o flaen ASau cyn mynd ati i fomio Syria, fodd bynnag.
Dywedodd yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn fod angen i'r prif weinidog "fod yn atebol i'r senedd hon ac nid i fympwy arlywydd yr UDA".
Ychwanegodd fod "amheuon cyfreithiol" ynghylch y bomio gan na ddylai'r DU fod wedi gweithredu oni bai ei bod wedi'i bygwth yn uniongyrchol, neu fod y penderfyniad wedi'i gymeradwyo gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd AS Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts, fod yr ymosodiad cemegol yn annynol ond bod "cynllunio am ryfel heb gynllunio yr un faint am heddwch hefyd yn greulon".
Dywedodd yr Arglwydd Morris wrth Taro'r Post ei fod yn "cytuno yn gyffredinol â'r cyngor mae'r Twrnai Cyffredinol wedi rhoi ac os yw'r amgylchiadau fel 'dyn ni... ac fel ma'r gwasanaethau cudd yn eu deall nhw, yna o'dd rhaid gwneud rhywbeth".
"Mae defnyddio arfau cemeg yn wrthun i bawb... pan mae pobl mewn perygl mawr, a falle rhagor o enghreifftiau o hyn yn digwydd, yna mae hawl i ymyrryd, dwi'n credu, pan mae'r Cenhedloedd Unedig yn gwrthod gwneud dim.
"Fi, mewn ffordd, ddatblygodd y doctrine yna bod hawl gyfreithiol [os yw'r] Cenhedloedd Unedig yn gwrthod gwneud dim.
"Yr unig ffordd oedd sicrhau bod hi'n rhoi'r hawl i naw o wledydd NATO i ymyrryd, ac i sicrhau i ddod â'r gobaith a'r heddwch i rannau o Kosovo oedd yn rhan bryd hynny o Iwgoslafia."
Ychwanegodd yr Arglwydd Morris ei fod yn credu mai "cam gwag oedd i'r Prif Weinidog ddim cael caniatâd oddi wrth Dŷ'r Cyffredin a fyse'n cefnogi hi 'sa rhywbeth yn mynd o'i le".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2018