Cymeradwyo cais i droi Guildhall Caerfyrddin yn fwyty
- Cyhoeddwyd
![Neuadd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17BC6/production/_90522279__88234266_1819163_cd92c5e5.jpg)
Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cynlluniau i addasu adeilad hanesyddol y Guildhall yng Nghaerfyrddin, er mwyn agor bwyty yno.
Roedd cwmni NextColour Ltd o Abertawe wedi gwneud cais i addasu'r llawr gwaelod a'r llawr cyntaf.
Fe gaeodd yr adeilad Cofrestredig Gradd I fel llys ynadon ym mis Mai 2016, ac mae'r adeilad wedi bod yn wag ers hynny.
Dyma oedd lleoliad y cyhoeddiad am fuddugoliaeth Gwynfor Evans yn isetholiad Caerfyrddin ym mis Gorffennaf 1966, ac mae nifer o achosion llys hanesyddol wedi eu cynnal yn yr adeilad dros y canrifoedd.
'Diffyg manylion'
Mae'r datblygwyr yn bwriadu addasu'r hen lys ynadon, y fynedfa a'r hen gelloedd.
Ni fydd y gwaith yn effeithio ar ystafell llys y goron ar y llawr cyntaf, ond bydd nifer o waliau yn cael eu dymchwel fel rhan o'r gwaith adeiladu mewnol.
Ein gohebydd Aled Scourfield sy'n olrhain rhywfaint o hanes cyfoethog y Guildhall
Roedd Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin a'r Gymdeithas Sioraidd wedi ysgrifennu at y cyngor sir yn mynegi pryderon.
Yn ôl y Gymdeithas Ddinesig, mae'r cais yn annerbyniol gan fod yna "ddiffyg manylion" am effeithiau'r newidiadau.
Fe fydd grwpiau cymunedol ac ysgolion lleol yn cael cyfle i ymweld ag ystafell Llys y Goron trwy apwyntiad yn y dyfodol.
Rhaid bod yn 'bragmatig'
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, Alun Lenny, yn ystod y cyfarfod y dylai'r cyngor wneud "cwbl o fewn ein gallu i gadw" neuadd y Guildhall.
Fe gyfeiriodd Mr Lenny hefyd at achosion hanesyddol a gynhaliwyd yn y llys dros y canrifoedd gan gynnwys Terfysgwyr Beca a Ronnie Harries.
Fe gyfaddefodd hefyd ei fod yn ffafrio agor canolfan dreftadaeth yn y neuadd, ond dywedodd fod angen i'r awdurdod "fod yn bragmatig" wrth ystyried materion ariannol.
Wrth drafod dymchwel y grisiau i'r doc, ychwanegodd y Cynghorydd Ken Howell: "Fe gerddon ni fel cynghorwyr yr un camau a phobl fel Rebecca... rwy'n flin i golli hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2016