Alun Saunders: Y Frenhines Ddrag Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae sioeau drag wedi dod yn fwy fwy poblogaidd yn y blynyddoedd diwetha'. Un sy' wedi bod yn ffan o'r sîn ers blynyddoedd ydy'r awdur ac actor Alun Saunders o Gaerdydd. Ond er ei fod wedi bod yn dilyn brenhinesau drag ers blynyddoedd, yn 38 oed mae'n mentro i'r maes ei hun am y tro cynta'...

Ffynhonnell y llun, Claire Ford Photography

"Mae drag, i fi, yn rhoi trwydded i ddweud a 'neud pethe fydden i ddim yn ddigon dewr i 'neud fel Alun," meddai Alun, sy'n dweud bod sioeau brenhinesau drag, i rai, yn gallu codi ofn neu fod yn gas.

Bwriad ei gymeriad drag ef, Connie Orff, a fydd yn perfformio yng Nghanolfan y Mileniwm ym mis Mai am y tro cyntaf, ydy "gwneud i bobl chwerthin ar eu hunain".

"Ers i fi ddechre mynd allan ar y sîn hoyw yng Nghaerdydd, fi wedi bod yn gwylio drag acts ac wedi bod yn ffan mawr ers blynyddoedd," meddai.

"Mae drag yn newid eitha' lot ar hyn o bryd ac mae'r rhaglen RuPaul's Drag Race, [y gyfres realiti Americanaidd ar Netflix] wedi dod â drag yn boblogaidd iawn.

"Dwi wedi bod yn gwylio lot fawr fawr o'r rhaglen yna. Fi lan am 7 y bore ar ddydd Gwener yn barod i wylio - fi'n caru fe!

"Ond drag queens o Brydain sy'n dylanwadu arna' i fwya'. Roedd 'na un o'r enw Lady Ding yn perfformio pan ddechreuais i fynd allan ar y sîn yng Nghaerdydd, hi oedd un o'r bobl mwya' doniol o'n i erioed wedi ei weld ar lwyfan, ac fe wnaeth hi farw, dolen allanol tua blwyddyn ar ôl i fi ddechrau mynd i'w gweld hi. A mae'r profiad hynny wedi aros gyda fi.

"Fe wnes i ddechre sgwennu drama lwyfan o'r enw Tuck, am fywydau grŵp o ffrindiau sy'n gweithio gyda'i gilydd fel drag queens. Mae pobl fel arfer yn gweld y perfformiwr, ond mae 'na lot fawr yn digwydd tu nôl y llenni ym mywydau'r bobl yma. Ond wnes i feddwl, sut allai sgwennu drama am ddrag pan dwi byth wedi 'neud e fy hunan?"

Ffynhonnell y llun, Claire Ford Photography
Disgrifiad o’r llun,

Connie Orff

Aeth Alun ar gwrs yn y Royal Vauxhall Tavern yn Llundain, bob nos Lun am ddeg wythnos, a oedd yn dipyn o ymdrech meddai, ag yntau'n dad i ddau o blant ac yn byw yng Nghaerdydd.

"O'n i'n mynd â'r plant i'r ysgol yn y bore, yna'n mynd ar y National Express i Lundain, yn gweithio yno yn y prynhawn cyn cerdded ar hyd yr afon i'r Royal Vauxhall Tavern i wneud y cwrs, yna nôl ar y bws i Gaerdydd yn hwyr bob nos Lun.

"Mae'r Royal Vauxhall Tavern yn hyb yn Llundain i berfformwyr drag, dyna lle wnaeth Lily Savage ddechrau off o be' dwi'n deall, ac oedd yn brofiad arbennig.

"Erbyn diwedd y cwrs, roedd yn rhaid perfformio am ddeg munud ac fe wnes i benderfynu sgwennu am fy mywyd i, pam mod i eisiau gwneud hyn, logistics o wneud y cwrs yn Llundain pan mae dau o blant gyda ti, ac er mod i'n hollol terrified, wnes i fwynhau."

'Chwerthin ar fy hunan'

Mi fydd Alun Saunders, neu Connie Orff, yn perfformio sioe un dyn/un ddynes ym mar Ffresh Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ym mis Mai, ac mae'n dweud - er fod ganddo brofiad o berfformio o flaen cynulleidfa - bod y syniad yn codi ofn arno.

"Mae gwneud stand up yn scary. Ti methu dangos dy fod yn ofnus neu'n poeni am y peth.

"Fi mewn ffrog ydy'r sioe. Dydy Alun ddim yn diflannu a Connie yn ymddangos. Dwi'n neud stand-yp, ond fel cymeriad arall, ac i fi, mae'r perfformiad yn bwysig. Mae'r drag yn ffordd liberating o fod yn fi eitha' camp.

"Mi fydd y sioe yn ddwyieithog a beth sy'n fy nghyffroi i ydy cael cynulleidfa sydd ddim fel arfer yn gweld sioe ddrag yn yr iaith Gymraeg a'u tynnu nhw mewn. A rhoi'r neges peidiwch â phoeni os oes 'na Gymraeg yn y sioe, fe fyddwch chi'n deall rhywfaint.

"Fi'n byw mewn dwy iaith a dwi am drio chwerthin ar yr elfennau sydd yn ddoniol am ddysgu iaith a siarad dwy iaith, ac efallai i roi hyder ac ysbrydoliaeth i rai sy'n dysgu Cymraeg.

"Bwriad y noson ym mar Ffresh yw i drial deunydd sydd yn sôn am offence a sut bod ein cymdeithas ni mor barod i gael ein pechu gan bopeth ac felly rydyn ni'n risgio colli comedi a methu chwerthin ar bethau yn enwedig chwerthin ar ein hunain.

"Os ydw i'n gallu chwerthin ar fy hunan, wedyn y'n ni gyd yn gorfod dysgu chwerthin am ein hunain. Mae rhai pobl yn gallu gweld drag acts yn eitha' intrusive ac yn gas, ond bwriad Connie Orff yw peidio bod yn gas - ond ddim cweit bod yn neis chwaith - a chwerthin am unrhyw beth, pa mor sili a rhwystredig mae bywyd yn gallu bod."

Gwrandewch ar Mae Bywyd yn Ddrag ar iPlayer Radio