Carcharu tri am ddwyn £1.5m o beiriannau arian

  • Cyhoeddwyd
Achos dwyn arianFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Charlie Smith, Alfie Adams a John Doran ei dal yn dilyn cydweithio rhwng Heddlu Gwent a heddluoedd eraill

Mae tri dyn wedi eu carcharu am gyfanswm o dros 30 mlynedd am dorri i mewn i beiriannau arian, gan gynnwys un yn Sir Fynwy.

Dros gyfnod o dri mis, fe dorrodd y tri i fewn i 23 peiriant, gan ddwyn cyfanswm o £1.5m.

Digwyddodd un o'r lladradau yn siop y Co-op yn Nhrefynwy ar 8 Tachwedd 2017.

Dywedodd Heddlu Gwent, fod Alfie Adams, 39 oed, Charlie Smith, 32 oed, a John Doran, 20 oed, wedi defnyddio tuniau nwy i dorri i mewn i'r peiriannau, cyn dwyn y cynnwys.

Roedd y tri'n gwisgo mygydau balaclava, ac fe ddefnyddion nhw dorwyr disgiau i dorri trwy gaeadau, a gordd i dorri trwy ffenestr wydr, cyn dianc mewn car BMW gwyn.

Troseddau tebyg

Wrth ymchwilio i'r digwyddiad, fe gysylltodd Heddlu Gwent gyda lluoedd eraill oedd wedi gweld troseddau tebyg yn Siroedd Caergrawnt, Hertford, Caerlŷr a Northampton rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2017.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rob Jenkins o Heddlu Gwent: "O ganlyniad i'r cydweithio hwn rhwng lluoedd, roedd Heddlu Swydd Gaerlŷr yn gallu cyhuddo Smith, Doran ac Adams o wyth cyhuddiad o fyrgleriaeth a thri chyhuddiad o achosi ffrwydradau i beryglu bywyd."

Fe blediodd y tri yn euog i'r troseddau yn Llys y Goron Caerlŷr ddydd Mercher 28 Mawrth.

Yr wythnos ddiwethaf cafodd Adams, o Wigan, ei ddedfrydu i 12 mlynedd o garchar, cafodd Doran o Gildersome ger Leeds ei garcharu am naw mlynedd a chafodd Smith, o Lutterworth, ei ddedfrydu i 10 mlynedd a saith mis dan glo.