30 mlynedd dan glo i ddyn o'r Rhyl am ladd hen ffrind

  • Cyhoeddwyd
Redvers BickleyFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ni wnaeth Bickley arddangos unrhyw emosiwn wrth gael ei ddedfrydu

Mae dyn wedi cael dedfryd o garchar am oes am lofruddio dynes 25 oed yn Y Rhyl fis Medi'r llynedd.

Bydd yn rhaid i Redvers James Bickley, 21, dreulio o leiaf 30 mlynedd dan glo cyn cael ceisio am barôl am drywanu Tyler Denton i farwolaeth.

Hefyd fe gafodd ddedfrydau pellach o garchar am oes, gyda lleiafswm o 10 mlynedd dan glo, am geisio llofruddio chwiorydd Ms Denton, Cody a Shannen, a'u tad, Paul Denton.

Roedd yntau wedi cael ei alw i gartref Tyler Denton wedi i Bickley - cyfaill oedd yn rhannu tŷ â hi - ymosod ar y merched yn ddirybudd.

Mae teulu Ms Denton wedi dweud wedi'r ddedfryd na chafodd hi'r "cyfiawnder roedd hi'n haeddu".

Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug roedd y diffynnydd wedi dweud fod cymeriad o'r enw James yn rheoli ei feddyliau ar brydiau.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tyler Denton wedi treulio'r noson yn dathlu pen-blwydd ei chymar

Cafodd yr heddlu eu galw i Lys Aderyn Du yn Y Rhyl nos Sadwrn 9 Medi.

Roedd y tair chwaer wedi treulio'r noson yn dathlu pen-blwydd cymar Tyler Denton, Hayley Barnett.

Clywodd y rheithgor fod Bickley yn ddig am na chafodd ymuno â'r dathliadau.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Gary Kelly fod y diffynnydd wedi gwneud gwewyr y teulu yn waeth trwy honni nad oedd yn ei iawn bwyll adeg y llofruddiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tyler Denton a Redvers Bickley yn rhannu tŷ yn Llys Aderyn Du

Roedd Bickley, meddai'r Ditectif Prif Arolygydd, "wedi gwirioni gyda Tyler ac yn cuddio cenfigen ddofn" am ei bod mor agos at ei theulu a'i ffrindiau.

Ond mae'r ddedfryd wedi siomi teulu Ms Denton, sy'n dweud mewn datganiad: "Ni chafodd Tyler y cyfiawnder roedd hi'n ei haeddu."

"Fe ddylai fod wedi cael dedfryd hirach ond mae o dan glo, ac ni fydd yn gallu dinistrio teulu arall fel y mae wedi dinistrio ein teulu ni.

"Ein her ni nawr ydy ailadeiladu ein bywydau gyda darn ohonom ar goll."