Brexit: Amddiffyn mynd â'r achos i'r Goruchaf Lys
- Cyhoeddwyd
Mae llywodraeth y DU wedi amddiffyn eu penderfyniad i ofyn i'r Goruchaf Lys ystyried a yw deddfwriaeth Brexit Llywodraeth Cymru'n gyfreithlon.
Wrth ateb i gwestiwn brys ar y mater yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd y Twrnai Cyffredinol Jeremy Wright mai'r bwriad oedd "parchu" y setliad datganoli.
Mae'r llywodraethau datganoledig wedi pasio'u Mesurau Dilyniant eu hunain mewn ymateb i fethiant Llywodraeth y DU i ddiwygio Bil Ymadael yr UE.
Mae gweinidogion Bae Caerdydd a Chaeredin yn dweud fod y bil arfaethedig yn ymgais i "gipio pŵer".
'Un fersiwn'
Mae trafodaethau'n parhau rhwng y llywodraeth ynglŷn â beth ddylai ddigwydd i bwerau mewn meysydd datganoledig pan maen nhw'n dychwelyd i'r DU o Frwsel wedi Brexit.
Dan gynlluniau Llywodraeth y DU byddai'r rhan fwyaf yn cael eu trosglwyddo'n syth i Gaerdydd a Chaeredin, ond byddai rhai yn aros yn Llundain.
Dywedodd Mr Wright fod Llywodraeth y DU eisiau "datrysiad ymarferol ble allwn ni gael dwy system o gyfreithiau sy'n gweithio ar y diwrnod rydyn ni'n gadael".
"Dyna beth sydd yn rhaid i ni ei sicrhau ar gyfer ein hetholwyr waeth ble yn y DU maen nhw'n byw," meddai.
"Y drafferth rydyn ni'n delio gyda'n fan hyn yw ei bod hi'n edrych fel bod sawl fersiwn o ddilyniant ac fe allwn ni ond gael un yn y bôn.
"Er mwyn datrys y ffrae mae'r setliadau datganoli yn glir, rôl y Goruchaf Lys yw gwneud hynny, ond wrth gwrs fe fydd y broblem yn mynd i ffwrdd os allwn ni ddatrys hyn drwy drafodaethau a dwi'n gobeithio'n fawr y byddwn ni."
Ychwanegodd Mr Wright nad oedd yn gwybod faint fyddai cost yr achos yn y Goruchaf Lys.
Mae AS Llafur De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty wedi disgrifio'r sefyllfa fel "llanast blêr sydd i gyd wedi'i achosi gan y llywodraeth".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2018