Lladrad banc Sir y Fflint: Arestio dyn yn ei 30au

  • Cyhoeddwyd
Lladrad BancFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y lladrad tua 10:15 fore Mercher

Fe gafodd dyn yn ei 30au ei arestio mewn cysylltiad â lladrad o fanc yn Sir y Fflint ddydd Mercher.

Mae Heddlu'r Gogledd yn dal i apelio am fwy o wybodaeth yn dilyn lladrad o fanc Barclays ar Heol yr Orsaf yn Queensferry am 10:15.

Dywedodd heddlu'r gogledd fod dau ddyn wedi mynd i mewn i'r banc.

Roedden nhw'n gwisgo siwtiau bwyler, balaclafas a mygydau ac yn cario trosolion.

Fe lwyddon nhw i ddwyn swm sylweddol o arian gan swyddog diogelwch oedd yn cludo arian ar y pryd.

Chafodd neb ei anafu, a'r gred yw bod y dynion wedi llwyddo i ddianc mewn cerbyd oedd yn cael ei yrru gan drydydd troseddwr.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Eleri Thomas o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y troseddwyr yn cyrraedd neu adael y banc, yn enwedig unrhyw un allai fod wedi ffilmio'r digwyddiad ar eu ffon, neu luniau o gamera car i gysylltu â'r heddlu ar 101 a dyfynnu'r cyfeirnod W049276".

Mae'r dyn gafodd ei arestio wedi cael ei gadw yn y ddalfa.