Cau rhan o ffordd yr A40 tan ddydd Llun wedi llyncdwll

  • Cyhoeddwyd
llyncdwllFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddangosodd y llyncdwll yn y ffordd ddydd Mercher

Bydd rhan o ffordd yr A40 yn Sir Gaerfyrddin yn parhau ynghau tan ddydd Llun wedi i dwll mawr ymddangos yn y ffordd ddydd Mercher.

Cafodd y ffordd rhwng Heol Rhos a'r A482 yn Llanwrda ei chau oherwydd fod y llyncdwll yn beryglus i yrwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y difrod i'r ffordd wedi ei achosi gan geuffos ddŵr oedd yn gollwng.

Roedd y dŵr wedi golchi deunydd o amgylch y ceuffos, gan achosi'r ffordd yn union uwchlaw i gwympo.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys

Ychwanegodd y llefarydd: "Bydd rhan o'r A40 ger Llangadog a Llanymddyfri ar gau dros y penwythnos, gyda dargyfeiriadau ar waith, a bydd y Contractwyr Asiant Cefnffyrdd ar y safle yr wythnos nesaf i ddechrau atgyweiriadau brys i'r cwlfert a'r arwyneb ffordd."

Mae goleuadau traffig dros dro wedi eu gosod yn Llangadog i geisio hwyluso'r traffig sy'n cael ei ddargyfeirio, ac mae'r heddlu'n apelio ar yrwyr i fod yn amyneddgar.