Arestio dyn wedi i gar anafu 'nifer o bobl' mewn digwyddiad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi dweud fod dyn wedi ei arestio yn dilyn digwyddiad ger Pen-y-bont nos Iau ble cafodd "nifer o bobl" eu hanafu.
Yn ôl adroddiadau lleol fe wnaeth car daro grŵp o bobl ar gae pêl-droed yng Nghorneli toc wedi 20:00.
Y gred yw bod ail dîm Corneli yn chwarae yn erbyn Margam ar y pryd.
Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw'n credu bod yr anafiadau yn rhai oedd yn peryglu bywyd.
Mae dyn 35 oed yn parhau yn y ddalfa, ac mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.