'Sioc' wedi i gar daro pobl ar gae pêl-droed Corneli
- Cyhoeddwyd
Mae clwb pêl-droed wedi dweud eu bod "mewn sioc" ar ôl i ddyn gael ei arestio wedi i nifer o bobl gael eu hanafu mewn digwyddiad ar eu cae.
Dywedodd yr heddlu bod 11 o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu taro gan gar BMW yng nghlwb Cornelly United ar Stryd y Ddôl yng Nghorneli, ger Pen-y-bont, toc wedi 20:00 nos Iau.
Mae dyn 35 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o glwyfo bwriadol ac mae'n parhau i fod yn y ddalfa.
Mae Heddlu De Cymru wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau a fideo o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.
Maen nhw hefyd yn apelio ar unigolion i beidio rhoi unrhyw fideo ar wefannau cymdeithasol am y gallai "rwystro ein hymchwiliad".
Cafodd dau griw o'r gwasanaeth tân ac achub eu gyrru i'r digwyddiad i helpu'r heddlu, tra bo'r gwasanaeth ambiwlans wedi gyrru tri ambiwlans a dau gar yno hefyd.
Dywedodd ysgrifennydd y clwb, Joe Jones bod pobl wedi cael eu taro ar ddiwedd y gêm rhwng ail dîm Corneli a Margam.
"Fe ddigwyddodd ar ôl y gêm wrth i'r chwaraewyr gerdded oddi ar y cae," meddai.
"Roedd y peth yn ofnadwy. Roedd yna rieni yno, roedd pobl yn rhuthro i helpu.
"Roedd yr ambiwlans a'r heddlu yn anhygoel, fe wnaethon nhw gyrraedd yn gyflym," ychwanegodd.
'Sioc enfawr'
Fe aeth Ruth McAneney, sy'n byw dros y ffordd i'r cae pêl-droed i helpu'r rhai oedd wedi anafu.
"Fe wnes i edrych draw yno ac roedd grŵp o bobl o amgylch un bachgen, felly es i draw i helpu," meddai.
"Roedd yn ymwybodol ac yn eistedd i fyny. Fe wnes i aros gydag e nes i'w fam gyrraedd.
"Mae'r digwyddiad yn sioc enfawr i'r gymuned."
Mae Cornelly United wedi cyhoeddi neges Twitter yn diolch i'w cefnogwyr am eu negeseuon caredig yn dilyn "noson wallgof".
"Rydyn ni mewn sioc ar ôl digwyddiadau heno, ond yn ddiolchgar, does dim chwaraewr mewn cyflwr difrifol," meddai'r clwb.
"Rydyn ni wir yn unedig heno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2018