Dau wedi marw mewn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur ger Dinbych ddydd Gwener.
Dywed Heddlu'r Gogledd fod gyrrwr y beic modur a theithiwr piliwn sef y person arall oedd ar gefn y beic wedi eu lladd ar ôl bod mewn gwrthdrawiad â char Ford Focus rhwng pentre' Groes a Dinbych ar yr A543.
Cafodd dau berson oedd yn teithio yn y car eu cludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau.
Cafodd yr heddlu wybod am y ddamwain ychydig cyn 11:00 a chafodd y ffordd ei chau, gyda'r heddlu yn gofyn i bobl osgoi'r ardal am y tro.
Dywedodd llefarydd fod ambiwlans awyr wedi mynd i'r safle ond fod y ddau oedd ar y beic modur wedi marw yn y fan a'r lle.
Apelio am dystion
Mae'r heddlu yn apelio ar dystion i gysylltu â nhw.
Dywedodd Sarjant Meurig Jones o'r Uned Blismona Ffyrdd: "Mae'n drist dweud fod dau o bobl wedi marw ac mae'n cydymdeimlad gyda theulu a ffrindiau'r ddau.
"Roedd y beic modur - oedd wedi ei gofrestru dramor, yn un o bedwar beic modur oedd yn teithio o Ddinbych i Groes. Roedd y car Frod Focus yn teithio i'r cyfeiriad arall.
"Rydym yn apelio am dystion a welodd y beiciau modur cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â ni.
"Rydym hefyd yn apelio ar unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd ac sydd â deunydd fideo dash cam i gysylltu â ni."
Dylid cysylltu â'r heddlu ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod W050328.