Gwaith heb gychwyn ar adeilad uchaf Cymru yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
argraff artistFfynhonnell y llun, Rio/Watkin Jones Group
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o'r adeilad yng nghanol y brifddinas

Roedd adeilad uchaf newydd Cymru i fod i agor yn ystod misoedd yr haf eleni, ond dyw'r gwaith o'i godi heb gychwyn eto, a does dim sôn pryd fydd hynny'n digwydd.

Fe gafodd yr adeilad 42 llawr a 132m ar Heol y Tollty ei gymeradwyo gan Gyngor Caerdydd yn 2016.

Fe fyddai'r adeilad yn uwch na'r adeilad uchaf presennol, sef Tŵr Meridian yn Abertawe, sy'n 107m.

Ond mae'r datblygwr, cwmni Watkin Jones o Fangor, wedi gwrthod ateb cwestiynau am bryd fydd y gwaith yn cychwyn, os o gwbl.

Hwn oedd yr uchaf o gyfres o adeiladau, y mwyafrif ar gyfer llety myfyrwyr, a gafodd ganiatâd cynllunio ac a fyddai'n gweddnewid nenlinell Caerdydd.

Fe gafodd y cwmni bum mlynedd i ddechrau'r gwaith o pan gafodd y caniatâd ei roi, felly mae ganddyn nhw tan 2021 i ddechrau.

Ffynhonnell y llun, Corstorphine and Wright
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y datblygiad ar Stryd Herbert yn gartref i 674 o fyfyrwyr

Roedd y cynllun yn cynnwys lolfa gyda golygfeydd o'r ddinas, siop neu gaffi ar y llawr gwaelod ac ystafelloedd i 450 o fyfyrwyr.

Er bod y cyngor wedi cymeradwyo'r cais, fe wnaeth wahanu barn ar y cyngor. Roedd rhai'n dweud y byddai'n ychwanegiad da i'r brifddinas ond eraill o'r farn y byddai'n ddolur llygad gan ei fod mor agos at y brif reilffordd tua'r gorllewin.

Yr adeiladau uchaf yn y brifddinas ar hyn o bryd yw Tŵr Capital (80m) a Thŵr BT (78m).

Dywedodd llefarydd ar ran Watkin Jones nad oedd unrhyw beth i'w adrodd am ddatblygiad Ffordd y Tollty.

Ychwanegodd: "Mae'r grŵp wedi bod yn canolbwyntio ar y datblygiad newydd ar Heol y Bont, sy'n adeilad 24 llawr gyda 464 o welyau."

Bydd yr adeilad yna'n cael ei gwblhau ddydd Mercher, a phan fydd yn agor ym mis Awst fe fydd wedyn yr adeilad uchaf yn y ddinas yn 85m.

Fe fydd tŵr arall ar Stryd Herbert, sydd i fod i agor yn haf 2019, yr un maint.