Gwrthod apwyntio Comisiynydd i'r Lluoedd Arfog yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
MilwyrFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r swydd newydd yn costio £550k pob blwyddyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y syniad o apwyntio Comisiynydd Lluoedd Arfog.

Yn ôl y llywodraeth, byddai creu'r swydd newydd yn costio tua £550k pob blwyddyn.

Dywedodd Alun Davies, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, y byddai'r gost o greu'r swydd newydd yn effeithio ar y cymorth sydd eisoes ar gael i'r Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Mae'r gweinidog yn credu fod "cynnydd aruthrol" wedi ei wneud wrth wella'r ddarpariaeth ar gyfer cyn filwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Pwrpas y swydd newydd fyddai gwasanaethu unigolion a theuluoedd o fewn gymdeithas y lluoedd arfog yng Nghymru.

Cafodd Comisiynydd Lluoedd Arfog ei benodi yn yr Alban yn 2014.

'Dim gwerth ychwanegol'

Wrth egluro'r penderfyniad i wrthod creu'r swydd newydd, dywedodd Mr Davies na fyddai'r comisiynydd yn ychwanegu unrhyw werth i'r ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.

Yn ôl y gweinidog fyddai penodi comisiynydd yn "tynnu adnoddau i ffwrdd o wasanaethau a chefnogaeth sydd eisoes ar gael i gymuned y lluoedd arfog".

Er hyn, dywedodd Mr Davies fod y llywodraeth am "barhau i fuddsoddi" er mwyn cryfhau'r gwasanaeth sydd ar gael i'r lluoedd arfog yng Nghymru.

Ychwanegodd: "Byddwn yn gofyn i fy swyddogion i gryfhau'r gefnogaeth i gyn filwyr yn ogystal â darganfod unrhyw wendidau yn y ddarpariaeth bresennol."