Amheuon am ornest rygbi Cymru a De Affrica yn yr UDA
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru yn hyderus y bydd y gêm brawf yn erbyn De Affrica yn yr UDA yn mynd yn ei blaen, er gwaethaf amheuon ynglŷn â'r ornest.
Yn ôl adroddiadau mae'r cwmni sy'n cynnal yr ornest ar 2 Mehefin, Rugby International Marketing (RIM), yn wynebu trafferthion ariannol, gan gynnwys prinder tocynnau wedi'u gwerthu.
Fe fydd Cymru'n wynebu'r Springboks yn Stadiwm Robert F Kennedy yn Washington DC, cyn teithio i'r Ariannin ar gyfer dwy brawf ar 9 a 16 Mehefin.
Mae disgwyl i'r hyfforddwr Warren Gatland roi hoe i rai o'i chwaraewyr profiadol, gan gynnwys y clo Alun Wyn Jones, o daith yr haf.
Mae URC a RIM wedi cael cais am sylw.