Pecynnau diogelwch i ddefnyddwyr cyffuriau 'yn llwyddo'
- Cyhoeddwyd
Mae pecyn diogelwch newydd sy'n cael ei roi i ddefnyddwyr cyffuriau yn llwyddiant, yn ôl gweithwyr ym maes cyffuriau.
Mae offer Safeloc yn cloi o gwmpas y nodwydd ac yn torri ei blaen - does dim posib cael y nodwydd allan o'r cas.
Ers mis Gorffennaf, mae'r pecynnau yn cael eu rhannu i filoedd o ddefnyddwyr cyffuriau ar draws Cymru.
Dywedodd rheolwr gwasanaeth cyffuriau Caerdydd, Leanne Bruford bod mwy o ddefnyddwyr bellach yn dychwelyd eu nodwyddau er mwyn sicrhau bod modd cael gwared ohonynt yn ddiogel.
34,684 o nodwyddau a biniau
Cafodd y pecynnau eu cyflwyno gyntaf yng Nghaerdydd wedi i drigolion Trebiwt ddweud bod nifer o nodwyddau yn cael eu taflu ar y stryd, ac y gallai hynny fod yn berygl i blant sy'n chwarae yn yr ardal.
Yn 2017/18, cafodd 34,684 o nodwyddau a biniau eu rhannu i ddefnyddwyr cyffuriau mewn lle cyfnewid nodwyddau - man lle mae pobl yn cael offer am ddim a chyngor cyfrinachol am arferion chwistrellu.
O'r nodwyddau gafodd eu rhannu cafodd 66% eu dychwelyd ar gyfer eu gwaredu'n ddiogel - 39% yn fwy na 2016/17.
Cyfrifoldeb y defnyddiwr yw rhoi'r nodwydd yn y pecyn plastig.
Unwaith bod hynny wedi digwydd nid yw'n bosib ailddefnyddio'r nodwydd - dim ots faint yw'r ymdrech i'w chael o'r pecyn.
Dywedodd Ms Bruford mai un rheswm bod mwy o nodwyddau yn cael eu dychwelyd yw bod yr offer yn caniatáu i ddefnyddwyr gario nodwyddau brwnt yn eu pocedi neu bagiau yn ddiogel.
Ychwanegodd: "Petai rhywun yn trio cael y nodwydd allan, mi fyddai hynny'n amhosib.
"Petai rhywun yn defnyddio cyllell Stanley neu lif ac yn llwyddo i gael y nodwydd allan - mi fyddai hynny'n ddiwerth gan y byddai'r nodwydd wedi torri beth bynnag."
Cafodd y pecyn Safeloc ei ddatblygu gan Orion er mwyn sicrhau na fyddai defnyddwyr yn taflu nodwyddau neu offer arall, gyda'r bwriad o atal defnyddwyr rhag defnyddio yr un nodwyddau.
Y gobaith yw y bydd yr offer yn atal clefydau rhag lledu, gostwng sbwriel cyffuriau a'r niwed i'r cyhoedd ac hefyd yn costio llai i'r GIG.
Sut mae pecyn Safeloc yn gweithio?
Wedi chwistrellu rhaid i'r defnyddiwr roi'r nodwydd mewn tiwb;
Mae'r nodwydd yn torri wrth iddi fynd mewn gan fod pen uchaf y tiwb yn culhau;
Mae'r nodwydd yna yn gaeth o fewn y tiwb a does dim modd ei symud, gan olygu na all achosi niwed.
Yn y gorffennol mae defnyddwyr wedi bod yn cael blychau yn sy'n cynnwys nifer o nodwyddau a bin arbennig i'w storio.
Ond yn ôl Mark Tudor o Orion roedd nifer, yn enwedig pobl sy'n byw ar y stryd, yn taflu'r nodwyddau a'r biniau am eu bod yn rhy swmpus i'w cario.
Dywedodd: "Mae'r pecyn newydd yn rhoi popeth i'r defnyddiwr. Dyw e ddim ots os yw'r pecyn yn cael ei adael ar y stryd a bod rhywun yn camu arno - fydd y blwch ddim yn torri ac yn niweidio neb."
Caerdydd a'r Fro oedd y cyntaf i dreialu'r pecynnau. Maent bellach yn cael eu defnyddio ar draws Cymru - y wlad gyntaf yn y DU i'w defnyddio ar raddfa eang.
'Llinell denau iawn'
Er yn croesawu'r cynllun, dywedodd ymgynghorydd arbenigol elusen CAIS, Wynford Ellis Owen nad yw'n mynd at wraidd y broblem.
"Mae mesurau fel hyn yn bethau ymarferol y gellid eu gwneud i arbed yr addict rhag niweidio fo'i hunan ac amddiffyn y cyhoedd yn gyffredinol. Felly maen nhw i'w croesawu," meddai.
"Ond mae yna linell denau iawn rhaid osgoi ei chroesi. Mae'n hawdd iawn delio gyda symptomau'r cyflwr yma ond yn y bôn be sy'n rhaid ei wneud ydy delio â'r cyflwr ei hun."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2017
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2018