Pro14: Dreigiau 8-33 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
ScarletsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Tadhg Beirne ddau gais o fewn ychydig funudau i'w gilydd yn yr ail hanner

Cafodd y Scarlets fuddugoliaeth pwynt bonws hawdd yn erbyn y Dreigiau yng ngêm gyntaf Dydd y Farn yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn.

Aeth y Scarlets ar y blaen o fewn ychydig funudau gyda chais gan y bachwr Ryan Elias.

Ciciau gan Leigh Halfpenny ac Arwel Robson oedd unig bwyntau eraill yr hanner cyntaf, gan olygu mai 7-3 i'r Scarlets oedd y sgôr ar yr egwyl.

Cafodd y clwb o'r gorllewin ddechrau da i'r ail hanner gyda chais gosb, cyn i'r blaenasgellwr Tadhg Beirne sgorio dau gais o fewn ychydig funudau i'w gilydd.

Gêm gartref yn y chwarteri

Sgoriodd y Dreigiau eu cais cyntaf ar ôl awr o chwarae, gyda'r asgellwr Jared Rosser yn croesi yn y gornel.

Ond y Scarlets gafoddd y gair olaf, wrth i'r asgellwr Steff Evans ymestyn eu mantais gyda phum munud yn weddill.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Scarlets yn siŵr o gael gêm gartref yn rownd y chwarteri yn y Pro14.