Prisiau ŵyn yn codi i'w lefel uchaf ers tro wedi prinder

  • Cyhoeddwyd
Ŵyn

Mae prisiau ŵyn stôr wedi codi i'w lefel uchaf ers tro, wrth i farchnadoedd Cymru weld prinder yn nifer yr ŵyn rhwng blwydd a dwyflwydd oed sydd ar gael i'w gwerthu.

Daw'r prinder yn dilyn gaeaf gwlyb, ac oherwydd hynny mae'r galw am gig oen Prydeinig yn fwy nag erioed.

Mae pryder ymysg ffermwyr y byddant yn cael eu cosbi gyda phrisiau is na'r arfer pan fydd nifer yr ŵyn yn cynyddu eto erbyn mis Medi.

Yn ôl Hybu Cig Cymru, mae'r pris uwch yn adlewyrchu'r sefyllfa wleidyddol bresennol.

Peth da ai peidio?

Does dim sicrwydd eto am ba hyd fydd y prisiau da yn cynnal, ond mae'r arwerthwr Richard Jones yn rhoi croeso gofalus i'r cynnydd.

"Mae'r prisiau'n dda iawn i ffermwyr," meddai.

"Mae'r gaeaf wedi bod yn anodd iawn, ac mae'n dda o beth bod rhai erbyn hyn yn cael eu gwobrwyo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arwerthwr Richard Jones yn rhoi croeso gofalus i'r cynnydd yn y prisiau

Yn y farchnad yn Nolgellau bu'r ŵyn rhwng blwydd a dyflwydd oed yn gwerthu ar gyfartaledd o £45, gyda'r pris uchaf yn cyrraedd £93.

Bydd mwyafrif yr ŵyn yn cael eu cadw am chwe wythnos cyn cael eu gyrru i ladd-dy. Ar hyn o bryd, mae'r lladd-dai yn talu rhwng £2.50 a £3.00 y cilogram am yr wyn. Y pris uchaf ers 2013.

"Mae gennai ofn mawr fod ffermwyr yn mynd i gael eu cosbi erbyn yr hydref," meddai Mr Jones.

"Mae'n bosib y bydd y prynwyr eisiau ennill eu pres yn ôl cyn diwedd y tymor.

"Dwi'n poeni y bydd effaith ariannol hynyn'n ofnadwy, ac yn ddigon i yrru ffermwyr allan o fusnes."

Dywedodd John Richards o Hybu Cig Cymru bod nifer o elfennau wedi cyfrannu at y pris uchel.

"Dyw'r bunt heb gryfhau o gwbl ers y refferendwm, ac felly rydyn ni'n eithaf cryf o ran y farchnad allforio," meddai.

"Mae mewnforion hefyd i weld yn llai cystadleuol eleni, felly does dim cymaint wedi dod mewn.

"Ar ben hynny mae Seland Newydd wedi cael bach o drafferth yn y flwyddyn ddiwethaf gyda'r tywydd.

"Mae hyn oll wedi dod at ei gilydd ar adeg pan mae marchnadoedd yn edrych i brynu cynnyrch, ac felly 'dyn ni wedi gweld y prisiau'n gwella."