Cân y Babis: Gwyliwch Caryl yn canu

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Caryl Parry Jones yn canu cân yn arbennig i fabis Ebrill a Mawrth 2018.

Roedd y disgwyl amdani wastad yn creu tensiwn yng nghartrefi Cymru.

Wnaethon nhw dderbyn y neges? A fydd enw Joni bach yn cael ei gynnwys? Am beth fydd y gân yn sôn?

Ond pan ddaeth rhaglen Dafydd a Caryl i ben ar BBC Radio Cymru yn 2014 daeth diwedd i Gân y Babis hefyd.

Ond ddydd Mawrth, 1 Mai 2018, ar eu rhaglen ar BBC Radio Cymru 2, datgelwyd Cân y Babis newydd i groesawu cyfnod newydd o ganeuon.

Dyma enwau'r babis lwcus yn y gân gyntaf:

Nina Siôn, Llew Morgan Mainwaring, Trefor Hatcher Davies, Gethin Grayson Wallis-Evans, Harri Elis Jones, Anni Wyn Thomas, Billy Brisco Thompson, Henry Jude, Eldra Aur Dafydd, Casi Eirlys, Rhys Elfed Humphreys, Ilan Rhun, Dafydd Ifan, Harri Edward Idris Nutting, Matilda Jean, Noa Sion, Heti Llyr, a'r efeilliaid Isaac Lyn Tandy ac Elspeth Rodd Tandy, a Sara Elen ac Owain Rhys.

Felly, os oes 'na fabis newydd yn y teulu, ebostiwch eu henwau at sioefrecwast@bbc.co.uk er mwyn eu cynnwys yng Nghân y Babis, fydd yn cael ei darlledu mis nesaf.