Llygredd aer: Port Talbot yw'r gwaethaf yn y DU

  • Cyhoeddwyd
Port Talbot

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) bellach wedi ymddiheuro am ryddhau ffigyrau anghywir ynglŷn â lefelau llygredd aer Port Talbot sydd yn y stori isod.

Mae'r ymddiheuriad a'r ffigyrau newydd i'w gweld yma.

Presentational grey line

Port Talbot yn ne Cymru yw tref fwyaf llygredig y DU, yn ôl adroddiad newydd ar ansawdd aer gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

Mae'r data yn dangos bod dros 40 o drefi a dinasoedd yn y DU sydd ar y ffin neu wedi mynd y tu hwnt i'r terfyn llygredd gafodd ei osod gan y WHO.

Mae 31 ardal lle mae lefel llygredd aer dros 10 microgram i bob metr ciwb, gyda 15 arall yn agos at y ffin.

Gall aer llygredig achosi nifer o afiechydon ac arwain at farwolaethau cynnar.

Yn ogystal â Phort Talbot, roedd llygredd aer yn uwch na'r terfyn ym Manceinion a Llundain.

Ym Mhort Talbot, lleoliad gwaith dur Tata, roedd 18 microgram o lygredd ym mhob metr ciwb o'r aer, gyda Scunthorpe a Salford nesaf ar y rhestr gyda 15 microgram i bob metr ciwb.

Mae'r WHO yn dweud bod llygredd aer yn gallu mynd i mewn i'r ysgyfaint a'r system gardiaidd, gan arwain at strôc, clefyd y galon, canser yr ysgyfaint neu heintiau resbiradol.

Dywedodd Simon Gillespie o Sefydliad y Galon bod gan y DU "ffordd bell i fynd yn y frwydr yn erbyn llygredd aer".

Mae llefarydd ar ran Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU wedi dweud bod "taclo'r broblem bwysig hon yn flaenoriaeth i'r llywodraeth", gan ychwanegu bod cynllun £3.5bn wedi ei weithredu i fynd i'r afael a'r mater.